Back

Amdanom Ni

Mae’r Mwldan yn ganolfan celfyddydau ac adloniant bywiog, wedi ei leoli yng nghanol Aberteifi, hen dref farchnad ar arfordir prydferth Gorllewin Cymru. Yn gwmni dielw, annibynnol ac yn elusen gofrestredig, mae Theatr Mwldan yn fenter gymdeithasol hynod lwyddiannus, yn gwmni sydd wedi ei berchen a’i redeg gan y gymuned y mae’n ei gwasanaethu. Gyda thair sgrin sy’n gyflawn ddigidol, ni yw’r unig sinema aml-sgrin gwir annibynnol yng Nghymru!

Mae’r Mwldan yn cyflwyno rhaglen amrywiol ac eclectig proffesiynol ar hyd y flwyddyn o waith artistig cenedlaethol a rhyngwladol ar draws ystod eang o gelfyddydau, gan gynnwys drama, cerddoriaeth, dawns, ffilm, llenyddiaeth, opera  a'r celfyddydau gweledol a chymwysedig. Yn ogystal, mae gennym un o’r rhaglenni ffilm gorau yng Nghymru, gan gynnig dros 3,000 dangosiad pob blwyddyn sy’n cynnwys ffilmiau prif ffrwd, ffilmiau arbenigol, dangosiadau 3D, a darllediadau byw trwy loeren o bob cwr o’r byd. Mae hyblygrwydd meddu ar dair sgrin sinema yn golygu y gallwn gynnig ystod ehangach o ffilmiau, dangosiadau arbennig a darllediadau byw.

Mae ‘na rywbeth yn digwydd yma 7 diwrnod yr wythnos, 363 diwrnod y flwyddyn! Felly pa bynnag ddiwrnod yr wythnos ydyw, a beth bynnag y tywydd, bydd ‘na bob amser rhywbeth yn dangos ar ein sgriniau a’n llwyfan.
 

Mae’r lleoliad hefyd yn cynnig ystod ragorol o gyfleusterau cyffyrddus modern sy’n addas i’w hurio gan drefnwyr cynadleddau, cyfarfodydd, dosbarthiadau a pherfformiadau, yn ogystal â bar a chaffi.
 

 

 

 

 

Top
A