Back

Ein Rheolau Ni

Rydym yn darparu amgylchedd diogel a glân i’n cwsmeriaid.  Mae ein staff yn darparu gwasanaeth effeithiol a chwrtais gan anelu at gyrraedd y lefelau uchaf o fodlonrwydd cwsmer.  Er lles ein holl ymwelwyr, mae ‘na reolau moesgarwch o fewn Theatr Mwldan y gofynnwn i chi eu parchu:                      

 

• Mae defnydd heb ganiatâd o gamera, fideo, sain neu ddyfais recordio arall wedi ei wahardd.

• Sicrhewch fod pob ffôn symudol a dyfais electroneg wedi eu troi i ffwrdd cyn i’r perfformiad ddechrau.

• Ni chaniateir ysmygu mewn unrhyw ran o’r adeilad.

• Ni chaniateir unrhyw wydrau yfed yn yr awditoria (gofynnwch yn y bar am wydr plastig os hoffech fynd â’ch gwydr i mewn gyda chi i ddangosiad neu berfformiad)

• Caniateir cŵn sy’n ymddwyn yn dda yn yr adeilad, ond nid yn y caffi. Cŵn tywys yn unig gaiff eu caniatáu yn ein hawditoria.

• Dim ond bwyd sy’n cael ei brynu yn yr adeilad a chaniateir ei fwyta yn y caffi.

• Gweithredwn bolisi hunaniaeth ffoto a chadwn yr hawl i wrthod mynediad a gwerthu alcohol.

• Ni chaniateir i gwsmeriaid ddod ag alcohol i mewn i’r adeilad.

• Ni chaniatawn ymddygiad ymosodol tuag at staff.

• Er ein bod yn croesawu adborth adeiladol, nid ydym yn goddef cynnwys difrïol a thramgwyddus nac ymddygiad difrïol tuag at ein staff na'r sefydliad ar-lein na thrwy’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd ymddygiad o'r fath yn arwain at waharddiad ar unwaith o'n cyfrifon swyddogol.• Mae’r Rheolwyr yn cadw’r hawl i ganslo neu ddiwygio’r rhaglen a hysbysebwyd.

• Caiff hwyrddyfodiaid mynediad yn ystod toriad addas yn y perfformiad yn unig yn ôl disgresiwn y Rheolwr ar Ddyletswydd. Mewn rhai sioeau, ni chaiff hwyrddyfodiaid fynediad.

• Gellir gwrthod mynediad i hwyrddyfodiaid heb ad-daliad.

• Mae’r Rheolwyr yn cadw’r hawl i wrthod mynediad heb ad-daliad.

• Ni all y Rheolwyr dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled o ganlyniad i ganslo unrhyw raglen neu ddigwyddiad.

• Os cewch unrhyw broblem tra’ch bod yn y ganolfan neu yn ystod digwyddiad, soniwch wrth y rheolwr ar ddyletswydd amdani ar unwaith. Yn anffodus mae’n bosibl ni allwn gynnig ad-daliadau neu gyfnewidiadau yn ôl-weithredol.

                  
Diolch am eich cydweithrediad. Gobeithiwn y cewch ymweliad wrth eich bodd.         

 



 

Top
E