Catrin Finch a Cimarrón (Cymru / Colombia)
Cynhyrchiad y Mwldan
Mae Catrin Finch yn un o delynoresau gorau’r byd. Mae’n ddawn ryfeddol ac yn anturiaethwraig gerddorol y mae ei gyrfa’n cynnwys perfformiadau unigol gyda cherddorfeydd amlycaf y byd ac, yn fwy diweddar, cydweithrediadau aruthrol gwobrwyedig gyda rhai o gerddorion blaenaf y blaned gan gynnwys Edmar Castaneda (Colombia ), Toumani Diabate (Mali), Seckou Keita (Senegal) ac Aoife Ní Bhriain o Iwerddon.
Mae Cimarrón y grŵp 6 aelod sydd wedi’i enwebu am Grammy, dan arweiniad y gantores Ana Veydo, yn perfformio cerddoriaeth ddawns joropo o wastatiroedd magu gwartheg yr Orinoco, wedi’i wreiddio mewn traddodiad dwfn a ddiffinnir gan dreftadaeth gymysg mestizo o ddiwylliannau Affrica, Sbaen a brodorol. Mae Cimarrón yn creu cerddoriaeth wyllt, nwyfus sy’n diogelu’r ysbryd o ryddid sy’n bodoli mewn un o ranbarthau mwyaf dilychwin y byd. Yn gyflym ac yn bwerus, mae eu cerddoriaeth yn cyfuno canu byrbwyll, dawnsio stomp anhygoel a hyfedredd y llinynnau a’r offerynnau taro.
Cyfle prin i weld cydweithrediad byd-eang gwefreiddiol.
Gorffennaf 2023
Tystebu
SONGLINES
'The joropo music at the heart of their performance is an unfettered, passionate, joyful-yet-pained cry from the heart'