Skip to main content

Datganiad Hygyrchedd ar gyfer mwldan.co.uk

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i mwldan.co.uk. Fe’i paratowyd gan Theatr Mwldan.

Am y wefan hon

Theatr Mwldan sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl gallu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • chwyddo mewn hyd at 300% heb i’r testun diflannu oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • efallai nad oes gan rai cynnwys fideo sydd wedi’i recordio ymlaen llaw gapsiynau na disgrifiad sain

Adborth a manylion gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu Braille, anfonwch e-bost at boxoffice@mwldan.co.uk. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 5 diwrnod gwaith.

Cofnodi problemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydym yn cadw at ofynion hygyrchedd, e-bostiwch boxoffice@mwldan.co.uk.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS). Os ydych chi yng Nghymru, gallwch hefyd gysylltu â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol..

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Theatr Mwldan wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:

  • Efallai na fydd gan rai cynnwys fideo sydd wedi’i recordio ymlaen llaw gapsiynau na disgrifiad sain. Mae hyn yn methu â meini prawf WCAG 2.2.  1.2.3 (Disgrifiad Sain neu Cyfryngau Amgen) ac 1.2.5 (Disgrifiad Sain)

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 11 May 2026. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 11 May 2026. Profwyd y wefan hon ddiwethaf gan Theatr Mwldan ym mis Mai 2026. Cynhaliwyd profion yn fewnol, gan asesu yn erbyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We WCAG 2.2.