TMFS It Was Just An Accident
TMFS logo

Cymdeithas Ffilm Theatr Mwldan

Sgroliwch i lawr am fwy o wybodaeth

Mae Cymdeithas Ffilm Theatr Mwldan, elusen sydd wedi ennill gwobrau, wedi bod yn dod â’r goreuon ymhlith sinema gelfyddyd arbenigol i Orllewin Cymru ers 25 mlynedd. Ar Nos Sul o fis Medi i fis Mai byddwn yn dangos tymor o 15 o ffilmiau a ddewiswyd yn ofalus. Mae’r ffilmiau’n amrywio o sinema’r byd sydd wedi ennill gwobrau, i ffilmiau Prydeinig annibynnol, ffilmiau dogfen cymhellol ac animeiddiadau. Anelwn at roi’r cyfle i bobl yng Ngorllewin Cymru fwynhau ffilmiau ar y sgrîn fawr sy’n peri iddynt feddwl.

Prynwch Aelodaeth

Opsiynau Aelodaeth:

Mae aelodaeth gyflawn flynyddol yn rhoi’r hawl i chi fwynhau 15 o ffilmiau Cymdeithas Ffilm heb unrhyw gost ychwanegol. Mae'n ddilys o'r dyddiad prynu hyd at 2 Medi 2026. Yn ogystal, mae’n rhoi’r hawl i chi gael £2.50 oddi ar bris llawn tocyn oedolyn, a £1.80 oddi ar bris gonsesiynau ar bob dangosiad sinema safonol*.
Byddwch hefyd yn derbyn cerdyn aelodaeth y Gymdeithas Ffilm y gallwch ei gasglu o swyddfa docynnau'r Mwldan.
*gan eithrio dangosiadau sinema 3D, digwyddiadau darlledu byw a dangosiadau cynnwys amgen.
Mae cyfle hefyd i greu cyfrif aelodaeth ar y cyd os dymunwch. Mae hyn yn golygu y gallwch brynu dwy aelodaeth o dan un cyfrif, gan eich galluogi i gadw seddi a phrynu tocynnau ar gyfer dwy aelodaeth wahanol naill ai ar wahân neu gyda'i gilydd. Mae'n ddelfrydol ar gyfer pobl sy'n cadw dwy sedd gyda'i gilydd yn rheolaidd ac yn arbed gorfod mewngofnodi i ddau gyfrif ar wahân. Mae pris aelodaeth ar y cyd yr un fath â phetaech yn prynu'r aelodaethau ar wahân. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y trefniant hwn, cysylltwch â swyddfa docynnau'r Mwldan.
Mae cerdyn TocynCynilo yn rhoi mynediad am ddim i chi i dri dangosiad y Gymdeithas Ffilm o fewn cyfnod o 12 mis ynghyd â £2.50 oddi ar bris cyflawn tocyn oedolyn, neu £1.80 oddi ar gonsesiynau, ar bob dangosiad sinema safonol*. Mae cardiau Tocyncynilo yn ddilys am flwyddyn o'r dyddiad prynu a gellir eu prynu ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.
Byddwch hefyd yn derbyn cerdyn y Gymdeithas Ffilm y gallwch ei gasglu o swyddfa docynnau'r Mwldan.
*gan eithrio dangosiadau sinema 3D, digwyddiadau darlledu byw a dangosiadau cynnwys amgen.
Mae ein Haelodaeth Gyflawn Person Ifanc ar gyfer pobl 16-30 oed. Mae'n rhoi’r hawl i chi fwynhau 15 o ffilmiau Cymdeithas Ffilm heb unrhyw gost ychwanegol. Mae'n ddilys o'r dyddiad prynu hyd at 2 Medi 2026. Yn ogystal, mae’n rhoi’r hawl i chi gael £2.50 oddi ar bris llawn tocyn oedolyn, a £1.80 oddi ar bris gonsesiynau ar bob dangosiad sinema safonol*. Os ydych dan 18 oed ni chewch fynediad i ffilmiau a ardystiwyd yn 18 oed ac ni chewch ad-daliad. Gwiriwch y dystysgrif cyn archebu tocyn.
Pan fyddwch yn casglu eich cerdyn aelodaeth y Gymdeithas Ffilm o swyddfa docynnau'r Mwldan gofynnir i chi ddarparu prawf oedran.
*gan eithrio dangosiadau sinema 3D, digwyddiadau darlledu byw a dangosiadau cynnwys amgen.