Skip to main content

Touring Productions

Mae Mwldan wedi bod yn cynhyrchu ac yn teithio perfformiadau ers 2005. Am dros 20 mlynedd rydym wedi cyflwyno dros 1200 o berfformiadau y tu allan i Aberteifi, ac mae ein cynyrchiadau teithiol gwobrwyedig wedi chwarae mewn lleoliadau a gwyliau ledled y byd, gan gynnwys Tŷ Opera Sydney, rhifynnau rhyngwladol o WOMAD, a hyd yn oed Glastonbury! Mae ein teithiau yn cefnogi ac yn datblygu gyrfaoedd yr artistiaid yr ydym yn gweithio gydag, ac yn cyflwyno diwylliant Cymreig ar lwyfan y byd. Rydym hefyd yn dod ag artistiaid rhyngwladol i deithio o amgylch y DU. Mae incwm masnachol o’n prosiectau teithiol a chynyrchiadau yn helpu i gefnogi cynaliadwyedd ariannol y Mwldan, ac yn sybsideiddio ein rhaglen artistig yn ôl adref yn Aberteifi.

Am manylion pellach cysylltwch a: dilwyn@mwldan.co.uk