Mwldan, Aberteifi, yn croesawu Hannah Firth fel y Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Creadigol newydd

Cychwyn: 22 September 2026
Mae Mwldan yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Hannah Firth fel Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Creadigol newydd. Bydd Hannah Firth yn dechrau yn y swydd tuag at ddiwedd y flwyddyn, pan fydd Dilwyn Davies yn camu i lawr ar ôl cyfnod o 33 mlynedd fel Prif Weithredwr.
Mae Hannah yn ymuno â'r sefydliad yn dilyn gyrfa o 25 mlynedd yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd, lle mae hi ar hyn o bryd yn dal y swydd o Gyfarwyddwr Artistig a Chyd-gyfarwyddwr.
Dechreuodd taith Hannah yn y sector celfyddydau gyda sylfaen gadarn mewn celf weledol, dylunio a ffilm. Yn nodedig, mae hi wedi curadu a chyfarwyddo arddangosfeydd sy'n cynrychioli Cymru yn y digwyddiad o fri, Biennale Fenis, ar ddau achlysur. Ers ymuno â Chapter yn 2001 fel Pennaeth Celf Weledol, mae hi wedi chwarae rhan allweddol yn y sefydliad, gan symud ymlaen i fod yn Bennaeth Rhaglen ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr yn 2016. Yn 2023, penodwyd Hannah yn Gyfarwyddwr Artistig ac yn Gyd-gyfarwyddwr Chapter.
Gyda'i phrofiad helaeth o raglennu a rheoli swyddogaethau allweddol yn Chapter, mae gan Hannah hanes llwyddiannus fel arweinydd ymroddedig ac uchel ei pharch. Mae hi wedi meithrin perthnasoedd hanfodol gyda chyllidwyr, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, ac mae ganddi wybodaeth fanwl o'r sector celfyddydau yng Nghymru. Bydd ei phrofiad o lywio tirwedd ddiwylliannol Cymru yn amhrisiadwy i Mwldan wrth iddo barhau i dyfu fel un o sefydliadau diwylliannol mwyaf nodedig Cymru.
"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Hannah i'r tîm a chydweithio'n agos yn y misoedd nesaf wrth iddi baratoi i ymgymryd â'i rôl newydd ac adeiladu ar sylfeini rhyfeddol Mwldan; ac rwyf wrth fy modd yn trosglwyddo'r hyn sydd wedi bod yn alwedigaeth oes i ddwylo mor fedrus a phrofiadol," meddai'r Prif Weithredwr presennol, Dilwyn Davies, a fydd yn ymddiswyddo ar ddiwedd y flwyddyn.
Dywedodd Jude Jones, Cadeirydd y Mwldan:
‘Rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai Hannah Firth fydd ein Prif Weithredwr a’n Cyfarwyddwr Creadigol newydd pan fydd Dilwyn Davies yn ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn. Mae Dilwyn yn gadael Mwldan ar ôl 33 mlynedd o wasanaeth, cyfnod sydd wedi gweld y ganolfan yn tyfu i fod yn un o’r lleoliadau celfyddydol mwyaf gwerthfawr yng Nghymru, ac
rydym bellach yn edrych ymlaen at weld y gwaddol hwnnw’n parhau dan arweiniad Hannah.’
Dywedodd Hannah Firth, y Prif Swyddog Gweithredol newydd:
“Rwyf wrth fy modd i ymuno â Mwldan a chymunedau Aberteifi a Gorllewin Cymru. Mae Dilwyn, y Bwrdd a’r tîm wedi creu lleoliad gwerthfawr sy’n cynnig rhaglen ddeinamig a rhyngwladol. Rwy’n gyffrous i adeiladu ar y gwaddol hwn ac yn edrych ymlaen at gysylltu â chydweithio â’r sefydliadau, yr artistiaid a’r cynulleidfaoedd unigryw yn Aberteifi a’r rhanbarth.”
DIWEDD/
Ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau, cysylltwch â:
Tamsin Davies
Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu, Mwldan
tamsin@mwldan.co.uk