Royal Ballet & Opera: Tosca (15 As Live tbc)
15 AS LIVE
Yn Dangos
5 Mai - 9 Mai
Nesaf
Mer 05 Mai 7:00 yh
Tocynnau
£18.00 (Adult / Oedolion)
£17.00 (Child / Plentyn)
£17.00 (Disabled / Anabl)
£17.00 (Full Time Student 15+ / Myfyrwyr Llawn Amser 15+)
£17.00 (Senior 60+ / Pobl Hyn 60+)
£17.00 (Job Seekers / Income Support / Ceiswyr Gwaith )
+ Ffi archebu o 10% yn berthnasol i bob tocyn
Beth yw hwn?Mae pris yr holl docynnau yn cynnwys TAW ac yn amodol ar ffi archebu o 10% (sydd hefyd yn cynnwys TAW) lle bo’n berthnasol (Mae ffioedd archebu wedi’u cyfyngu i uchafswm o £3 y cart)
Mae Floria Tosca a Mario Cavaradossi yn byw dros ei gilydd a dros eu celfyddyd. Ond pan mae Cavaradossi yn helpu carcharor sydd wedi dianc, mae'r cariadon yn gwneud gelyn marwol, sef y Barwn Scarpia, Prif Swyddog yr Heddlu. A hithau ar drugaredd chwantau llygredig Scarpia, mae Tosca yn cael ei gorfodi i daro bargen ofnadwy: cysgu gyda'r dyn y mae'n ei gasáu, er mwyn achub y dyn y mae'n ei garu. A all hi ddod o hyd i ffordd allan?
Mae cynhyrchiad clodwiw Oliver Mears yn dychwelyd, gan osod ffilm gyffro opera Puccini yn Rhufain yr oes sydd ohoni, yn ystod rhyfel. Mae Daniel Oren yn arwain Aleksandra Kurzak, sy'n dychwelyd i'r brif ran, ynghyd â Saimir Pirgu fel Cavaradossi a Christopher Maltman fel y Barwn Scarpia.
- •Bydd y sioe ar y 5ed o Mai yn cael ei ffrydio'n fyw, mae'r sioe ddilynol ar y 9fed o Mai yn recordiad.
- •Mae'r cynhyrchiad hwn yn cynnwys darluniau o ddienyddiadau, trais, cynnwys gwaedlyd, llofruddiaeth, ymosodiad rhywiol, artaith ymhlyg a hunanladdiad. Mae ergydion gwn yn Act III gydag ergydion gwag yn cael eu tanio. Gall y rhain fod yn uchel.
Cwestiynau Cyffredin Digwyddiadau darlledu
Mae'r rhain yn ddigwyddiadau sy'n cael eu ffilmio o flaen cynulleidfa fyw, ond wedi'u hoptimeiddio ar gyfer y sgrin fawr felly dyma'r peth agosaf at fod yno.
Mae'r perfformwyr ar y llwyfan yn cyflwyno eu perfformiadau fel y byddent unrhyw noson arall. Ond i wneud yn siŵr bod cynulleidfaoedd sy’n gwylio mewn sinemâu yn cael y sedd orau yn y tŷ, mae safleoedd y camera wedi’u teilwra i ddal pob cynhyrchiad ac yn gweithio’n agos gyda thimau technegol i wneud yn siŵr bod pob elfen ar y llwyfan fel goleuo, gwallt a cholur yn edrych yn wych ar y sgrin fawr.
Na. Mae rhai digwyddiadau'n cael eu darlledu'n fyw wrth iddynt ddigwydd mewn amser real, mae rhai yn cael eu recordio wrth iddynt ddigwydd ac yna'n cael eu darlledu eto ar ôl y digwyddiad, fel arfer yn ystod ffenest theatrig fer.
Mae graddfeydd oedran ‘As Live’ BBFC yn gyfraddau oedran dros dro ar gyfer cynnwys sydd ddim yn ffilmiau confensiynol (e.e. digwyddiadau llwyfan neu chwaraeon) sy’n cael eu darlledu mewn sinemâu. Mae graddfeydd 'As Live' yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan y dosbarthwr, heb i'r BBFC weld y cynnwys cyn ei arddangos. Maent yn ddilys am saith diwrnod ar ôl y digwyddiad byw.
Nid yw digwyddiadau 'As Live' yn ddarllediadau byw, gan fod y rhain y tu allan i gwmpas cyfreithiau trwyddedu’r DU. Dim ond dangosiad o ddigwyddiad byw sydd wedi eu hoedi sydd angen gradd As Live, hyd yn oed os mai dim ond ychydig funudau yw'r oedi.
Sylwch nad yw dosbarthiadau As Live yn gynghorol, rhaid cadw atynt yn yr un modd ag gradd ffilm arferol.
