Skip to main content

Mid Wales Opera: Gianni Schicchi (Puccini)

Yn Dangos

10 Tach - 10 Tach

Nesaf

Maw 10 Tach 7:30 yh

Tocynnau

Tocynnau

£18.00 (Adult / Oedolion)

£5.00 (O dan 21 oed / under 21s)

£18.00 (Ticket + Touch Tour / Tocyn + Taith Gyffwrdd - (Adult / Oedolion))

£5.00 (Ticket + Touch Tour / Tocyn + Taith Gyffwrdd - (O dan 21 oed / under 21s))

+ Ffi archebu o 10% yn berthnasol i bob tocyn

Beth yw hwn?Mae pris yr holl docynnau yn cynnwys TAW ac yn amodol ar ffi archebu o 10% (sydd hefyd yn cynnwys TAW) lle bo’n berthnasol (Mae ffioedd archebu wedi’u cyfyngu i uchafswm o £3 y cart)

Mae Opera Canolbarth Cymru yn cyflwyno noson lawn o opera Eidalaidd, gan agor gyda chomedi un act wych Puccini Gianni Schicchi, un o'r operâu comig Eidalaidd gorau a harddaf.
Mae perthnasau barus y Buoso Donati yn galaru ei farwolaeth ond yn dychryn o glywed wedi hynny na fyddant yn etifeddu dim. Cyrhaedda Gianni Schicchi gyfrwys gyda'i ateb dyfeisgar ei hun i'r mater, ond wrth i'w gynlluniau gael eu gwireddu aiff popeth i'r gwellt...
Yn orlawn o egni ac yn cynnwys un o ariâu mwyaf poblogaidd Puccini “O mio babbino caro”, dilynir y perl hwn o ddarn gan wledd yn yr ail hanner o gerddoriaeth Eidalaidd boblogaidd a gyflwynir gan griw o 15 o gantorion ac offerynnwyr OCC.
  • Tocyn + Taith Gyffwrdd Gianni Schicchi - 6.30pm
Am ddim ond angen tocyn – archebwch ymlaen llaw os gwelwch yn dda.
  Beth i’w ddisgwyl: 
Mynediad i’r Llwyfan – Camwch i’r set a phrofwch y cynllun, y dodrefn a’r defnyddiau eich hun. Propiau a Gwisgoedd – Gafaelwch mewn eitemau pwysig a theimlo eu gwneuthuriad, y ffabrig a’r manylion sy’n siapio’r cynhyrchiad.  Mewnwelediad Clywedol – Daw’r disgrifiadau llafar â byd gweledol y sioe yn fyw.

30 Hydref - 1 Tachwedd 2025

Lleisiau Eraill Aberteifi 2025

Cwestiynau Cyffredin Sioeau Byw

Gweler ein hadran Cwestiynau Cyffredinol am archebu yma, neu cysylltwch â'n swyddfa docynnau ar boxoffice@mwldan.co.uk / 01239 621 200.