Skip to main content

Dafydd Owain: Ymarfer Byw

Yn Dangos

10 Hyd - 10 Hyd

Nesaf

Sad 10 Hyd 7:30 yh

Tocynnau

Tocynnau

£17.00 (Adult)

£15.00 (Child)

£15.00 (Senior Citizen)

£15.00 (Disabled)

£15.00 (Job Seekers / Income Support)

£15.00 (Full Time Student )

+ Ffi archebu o 10% yn berthnasol i bob tocyn

Beth yw hwn?Mae pris yr holl docynnau yn cynnwys TAW ac yn amodol ar ffi archebu o 10% (sydd hefyd yn cynnwys TAW) lle bo’n berthnasol (Mae ffioedd archebu wedi’u cyfyngu i uchafswm o £3 y cart)

BBC Horizons logoAberteifi Live Logo
Mae Dafydd Owain yn artist o Gaernarfon sydd yn prysur sefydlu ei hun fel un o leisiau cerddorol mwyaf cyffrous Cymru.
Rhyddhaodd ei albwm cyntaf fel artist solo yn 2023, gan ennill enwebiadau ar gyfer Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn ogystal ag Albym Cymraeg y Flwyddyn. Fis Hydref 2025, daeth ei ail albwm, ‘Ymarfer Byw’, allan a bu iddi dderbyn clod aruthrol gyda nifer yn ei disgrifio fel un o’r albyms gorau yn 2025 yn ogystal â chael ei disgrifio fel “un o’r albymau pwysicaf i ddod allan o Gymru yn y degawd hwn” gan Nation.Cymru.
Mae ‘Ymarfer Byw (Yn Fyw)’ yn berfformiad emosiynol ac ingol o albym diweddaraf Dafydd yn ei gyfanrwydd. Dyma berfformiad sydd wedi ei ddisgrifio gan gynulleidfaoedd fel un o’r perfformiadau mwyaf pwerus iddyn nhw ei weld ers blynyddoedd lawer wrth i’r albym ddod yn fyw mewn dathliad pwerus o’n meddyliau tyfnaf.
  • Noder: Bydd y perfformiad yn cyffwrdd ar themâu emosiynol-ddifrifol a dwys ar brydiau. Er mai cyffyrddiadau amwys fydd yn cael eu cyflwyno ar y cyfan, mae’n bosib y bydd rhai elfennau o’r perfformiad yn anaddas i gynulleidfaoedd iau neu unigolion â sensitifrwydd i’r themâu hyn.
Other Voices Cardigan 2025

30 Hydref - 1 Tachwedd 2025

Lleisiau Eraill Aberteifi 2025

Tocynnau ar werth nawr!

Cwestiynau Cyffredin Sioeau Byw

Gweler ein hadran Cwestiynau Cyffredinol am archebu yma, neu cysylltwch â'n swyddfa docynnau ar boxoffice@mwldan.co.uk / 01239 621 200.