Cinema Live Presents: James Acaster - Cinemagoers Welcome (15)

Yn Dangos

24 Ebr - 15 Mai

Nesaf

Gwe 24 Ebr 8:00 yh

Tocynnau

Tocynnau

Tocynnau a gostyngiadau

£16.00 (Adult / Oedolion)

£15.00 (Senior 60+ / Pobl 60+)

£15.00 (Disabled / Anabl)

£15.00 (Job Seeker / Income Support)

£15.00 (Full Time Student 15+ / Myfyrwyr Llawn Amser 15+)

+ Ffi archebu o 10% yn berthnasol i bob tocyn

Beth yw hwn?Mae pris yr holl docynnau yn cynnwys TAW ac yn amodol ar ffi archebu o 10% (sydd hefyd yn cynnwys TAW) lle bo’n berthnasol (Mae ffioedd archebu wedi’u cyfyngu i uchafswm o £3 y cart)

Mae'r digrifwr James Acaster yn rhyddhau ei egni heintus wrth iddo archwilio ei berthynas cariad/casineb gyda stand-yp – tra’n croesawu ychydig o heclo. Gyda’r ffilmio’n digwydd yn Truro, Dulyn a Northampton, cawn weld sut y datblygodd yr arbrawf hwn o flaen tair cynulleidfa wahanol iawn.
Mae James Acaster yn un o ddigrifwyr stand-yp mwyaf cyffrous a gwreiddiol y DU, gyda theithiau yn y DU sydd wedi gwerthu pob tocyn a rhaglenni arbennig ar Netflix (cyfres Repertoire), mae e wedi dod yn un o'r wynebau mwyaf adnabyddus ar sîn gomedi'r DU.
Mae'n awdur llwyddiannus, yn actor (Ghostbusters: Frozen Empire) ac yn gyd-gyflwynydd y podlediad Off Menu hynod boblogaidd.

Cwestiynau Cyffredin Digwyddiadau darlledu

Mae'r rhain yn ddigwyddiadau sy'n cael eu ffilmio o flaen cynulleidfa fyw, ond wedi'u hoptimeiddio ar gyfer y sgrin fawr felly dyma'r peth agosaf at fod yno.
Mae'r perfformwyr ar y llwyfan yn cyflwyno eu perfformiadau fel y byddent unrhyw noson arall. Ond i wneud yn siŵr bod cynulleidfaoedd sy’n gwylio mewn sinemâu yn cael y sedd orau yn y tŷ, mae safleoedd y camera wedi’u teilwra i ddal pob cynhyrchiad ac yn gweithio’n agos gyda thimau technegol i wneud yn siŵr bod pob elfen ar y llwyfan fel goleuo, gwallt a cholur yn edrych yn wych ar y sgrin fawr.
Na. Mae rhai digwyddiadau'n cael eu darlledu'n fyw wrth iddynt ddigwydd mewn amser real, mae rhai yn cael eu recordio wrth iddynt ddigwydd ac yna'n cael eu darlledu eto ar ôl y digwyddiad, fel arfer yn ystod ffenest theatrig fer.
Mae graddfeydd oedran ‘As Live’ BBFC yn gyfraddau oedran dros dro ar gyfer cynnwys sydd ddim yn ffilmiau confensiynol (e.e. digwyddiadau llwyfan neu chwaraeon) sy’n cael eu darlledu mewn sinemâu. Mae graddfeydd 'As Live' yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan y dosbarthwr, heb i'r BBFC weld y cynnwys cyn ei arddangos. Maent yn ddilys am saith diwrnod ar ôl y digwyddiad byw.
Nid yw digwyddiadau 'As Live' yn ddarllediadau byw, gan fod y rhain y tu allan i gwmpas cyfreithiau trwyddedu’r DU. Dim ond dangosiad o ddigwyddiad byw sydd wedi eu hoedi sydd angen gradd As Live, hyd yn oed os mai dim ond ychydig funudau yw'r oedi.
Sylwch nad yw dosbarthiadau As Live yn gynghorol, rhaid cadw atynt yn yr un modd ag gradd ffilm arferol.