Back

TIR PWY YDYW? HANES AMERICA MEWN STRAEON A CHANEUON | WHOSE LAND IS IT? AMERICAN HISTORY IN STORIES AND SONGS

Mae’n Ddiwrnod Martin Luther King ddydd Llun 15fed Ionawr, ac i‘w nodi byddwn yn cynnal cyfres o sgyrsiau am ein cymdogion ar draws y môr. Sgwrs am hanes cenedl America... straeon am ‘the way west’ a‘r heriau parhaus o greu gwlad i bawb. Bydd band lleol The History Boys yn darparu trac sain sy’n sail i lunio cenedl. 

Sgwrs gan Russell Walker.

Cynhelir y digwyddiad hwn yn ardal oriel y Mwldan.  Ceir meinciau eistedd yn y gofod hwn, gyda rhai cadeiriau â chefnau.  Nid ydym yn cadw seddau ar gyfer y digwyddiadau hyn, felly rydym yn eich cynghori i gyrraedd yn gynnar os oes angen sedd gyda chefn  arnoch. 

Os oes gennych unrhyw broblemau hygyrchedd, cysylltwch â'n swyddfa docynnau (01239 621 200 /boxoffice@mwldan.co.uk). 

£5

Top