Canolfan Gelfyddydau amlbwrpas sy’n rhan o DNA Aberteifi

Mae creadigrwydd, celfyddydau a diwylliant yng ngwaed Aberteifi. Mwldan sydd wrth ei galon. Yn ganolfan fywiog i’r celfyddydau, ac yn elusen gofrestredig annibynnol, rydym wedi bod yn dathlu’r lleol a’r byd-eang ers 1983. Gyda rhaglen fywiog drwy gydol y flwyddyn o berfformiadau byw a rhaglen ffilm amrywiol ar draws ein tair sgrin, rydym yn croesawu dros 250,000 o bobl y flwyddyn drwy ein drysau yma yn Aberteifi, gyda llawer mwy yn profi ein gwaith trwy ein cynyrchiadau teithiol a recordiau wedi eu rhyddhau ledled y byd.

Mwyhau - Amplify

12 Gorffennaf 2025

Mwyhau

Dewch i gwrdd â’r wyth band lleol a fydd yn brwydro i ennill lle yn Lleisiau Eraill Aberteifi 2025, amser stiwdio yn Fflach, a sesiwn fentora gyda Cherdd Gymunedol Cymru!

Other Voices Cardigan 2025 first wave announcement

Hydref 2025

Cyhoeddi’r actau cyntaf ar gyfer Llwybr Cerdd Lleisiau Eraill Aberteifi!

Fel bob amser, byddwn yn dod â rhai o’r actau mwyaf disglair a gorau o Iwerddon a Cymru i leoliadau ar draws y dref i chwarae ar y Llwybr Cerdd, a dyma’r don gyntaf o berfformwyr sydd wedi’u cadarnhau...

Summer At The Castle @MGH Photography

Gorffennaf - Awst 2025

Yr Haf yn Y Castell

Mae Mwldan a Chastell Aberteifi yn cyflwyno rhaglen o theatr awyr agored gan Illyria, y cyfan yng ngerddi syfrdanol Castell Aberteifi.

SATORU Catrin Finch | Lee House

Hydref 2025

Catrin Finch a Lee House yn cyhoeddi prosiect newydd SATORU ar gyfer 2025

Mae ein cynhyrchiad diweddaraf yn gydweithrediad newydd a chyffrous rhwng y delynores Catrin Finch a’r cynhyrchydd Electronig Lee House, sy’n archwilio’r berthynas hynod ddiddorol rhwng cerddoriaeth a lles. Bydd y prosiect hwn yn rhoi tri pherfformiad arbennig ym mis Hydref 2025.

Beth Sydd Ymlaen Nawr a Nesaf

Alun Bar @JennieCaldwell

Cwrdd â'n Tîm

Mae ein tîm cyfeillgar yma i helpu! Dewch i gwrdd â nhw yma....

Mwy o Wybodaeth

LLOFNODWCH I'R CYLCHLYTHYR

Peidiwch a cholli cyriad! Byddwch y cyntaf i glywed am ddigwyddiadau sydd i ddod.

Rydym yn addo na fyddwn byth yn eich sbamio: gallwch ddewis yn union pa bynciau yr hoffech dderbyn gwybodaeth amdanynt a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.

Cofrestru