Back

Nofit State Circus: Bamboo

Hyrwyddiad ar y cyd gan y Mwldan | Castell Aberteifi

YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI

Cynhyrchiad syrcas awyr-agored newydd trawiadol, sgilgar, ysblennydd sy’n defnyddio dim ond bambŵ a chyrff pobl - gan ddangos breuder a harddwch ein bywydau rhyng-gysylltiedig a rhyngddibynnol ar y blaned hon. 

Mae'r artistiaid yn cyrraedd llwyfan gwag, gan ddod â bwndeli o fambŵ gyda nhw.  Maen nhw'n adeiladu cerfluniau mawr sy'n newid, yn addasu ac yn troi'n faes chwarae syrcas cywrain, annisgwyl sydd fel pe bai'n herio deddfau ffiseg.  

Mae artistiaid syrcas ac acrobatiaid gyda'r gorau yn y byd y tu mewn i’r strwythurau sy’n plygu ac yn gwyro, gan ychwanegu at y tensiwn, y ddrama, a’r ymdeimlad o berygl sydd wrth galon y sioeau syrcas gorau. 

Dyma berfformiad ystyrlon, afieithus, gyda cherddoriaeth fyw, comedi a champau sy'n dangos nerth ac ystwythder rhyfeddol.  Rydym yn dathlu’r hyn sy’n bosibl pan fydd bodau dynol a byd natur yn ymddiried yn ei gilydd ac yn gweithio mewn cytgord.

Mae BAMBOO yn bartneriaeth rhwng NoFit State, Imagineer ac Orit Azaz. Mish Weaver sy'n cyfarwyddo. Fe'i cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, The Foyle Foundation, a Without Walls, ac fe'i comisiynwyd gan Stockton International Riverside Festival, Norfolk & Norwich Festival, Hat Fair a Timber Festival.

Tyfodd BAMBOO allan o brosiect ar y cyd rhwng Imagineer, Orit Azaz a NoFit State er mwyn archwilio pa strwythurau, straeon a pherfformiadau syrcas y gellir eu creu â bambŵ wedi’i dyfu yn y DU. Os hoffech wybod mwy, ewch i dudalen Ymchwil a Datblygu Bamboo Circus ar ein gwefan. 

£9 / £6 Plant

·       Sioe deuluol yw hon gydag amser rhedeg o tua 45 munud.

·       Darperir seddi yn y digwyddiad hwn. Gofynnwn yn gwrtais i chi BEIDIO Â DOD Â’CH CADEIRIAU GWERSYLLA EICH HUN i’r safle. 

·       Bydd toiledau ar gael ar y safle.

·       Peidiwch â dod ag unrhyw alcohol neu wydr i’r safle.

·       Mae lluniaeth ar gael i'w brynu – peidiwch â dod â bwyd na phicnics i'r safle.

·       Peidiwch â dod ag ymbarelau gyda chi oherwydd gall y rhain gyfyngu ar yr hyn y gall eraill ei weld.

·       Ni chaniateir ysmygu na fêpio ar y safle.

·       Digwyddiad awyr agored yw hwn. Rydym yn cynghori cwsmeriaid i wisgo esgidiau addas a dod â siaced / dilledyn cynnes.

·       Ni fydd yn bosib cynnal y digwyddiad hwn mewn tywydd gwlyb. Byddwn yn monitro'r tywydd yn agos cyn y sioe ac yn cysylltu â’r rheiny sydd wedi archebu tocynnau os bydd unrhyw newidiadau angenrheidiol.

·       Ceir mynediad gwastad i ddefnyddwyr cadair olwyn a’r rheiny sydd â symudedd cyfyngedig. Cysylltwch â’n swyddfa docynnau os oes gennych unrhyw anghenion symudedd penodol fel y gallwn baratoi o flaen llaw ar gyfer eich anghenion.

·       Noder, nid oes unrhyw barcio ar y safle, a chynghorwn ein cwsmeriaid i ddefnyddio’r meysydd parcio talu ac arddangos cyhoeddus sydd o gwmpas y dref.

·       Ar gyfer digwyddiadau, ni chaniateir cŵn ar y safle ac eithrio cŵn tywys

·       Bydd safle’r Castell ar agor awr cyn amser cychwyn y perfformiad.

·       Ni roddir ad-daliadau ar gyfer tocynnau.

·       Y Mwldan yw’r unig werthwr tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn. Mae’n bosibl y bydd tocynnau ar gael wrth y drws, ond mae hyn yn dibynnu’n gyfan gwbl ar argaeledd. Argymhellwn archebu tocynnau i osgoi cael eich siomi.

·       Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01239 621 00 os oes gennych unrhyw gwestiynau.

 

 

Top