Back

Lighthouse Theatre Company: O'Little Town Of Aberystwyth

"Plant yn canu, seirenau'r heddlu'n canu, castanau wedi'u dwyn o dân plentyn amddifad. .....ac mewn stryd frwnt yn Chinatown, mae Siôn Corn siop adrannol yn gorwedd yn farw mewn pwll o'i waed ei hun - Aberystwyth adeg y Nadolig."

Mae Brenhines Denmarc yn llogi'r unig dditectif preifat yng Ngheredigion, Louie Knight. Mewn pum diwrnod, gyda’i bartner dibynadwy Calamtity, mae’n rhaid iddo ddatrys yr achos - os na, ni fydd Nadolig, dim anrhegion i’r plantos a dim cyngerdd i’r pengwiniaid sy’n canu carolau...

Yn dilyn llwyddiant Mon Amour Aberystwyth yn 2016, mae Lighthouse Theatre yn dychwelyd gyda premiere llwyfan o nofel Noir Gymreig arall gan Malcolm Pryce.

£15 (£14)Wedi’i gyfarwyddo gan Llinos Daniel, gyda cherddoriaeth wreiddiol gan Kieran Bailey, dyma i chi gynhyrchiad ar y cyd â Chanolfan y Celfyddydau Pontardawe a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru a Tŷ Cerdd.

£15 (£14)

Browse more shows tagged with:

Top