Back

Catrin Finch and Aoife Ní Bhriain (2024)

CYNHYRCHIAD Y MWLDAN

 

Cydweithrediad syfrdanol rhwng dau dalent cerddorol aruthrol.

Mae Aoife Ní Bhriain, sy’n hanu o Ddulyn, yn un o ffidlwyr traddodiadol mwyaf blaenllaw Iwerddon ac yn feiolinydd clasurol o statws rhyngwladol sy’n feistrolgar ym maes cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth ei threftadaeth draddodiadol Wyddelig. Ar draws Môr Iwerddon, ar arfordir gorllewinol Cymru, mae’r delynores Catrin Finch hefyd wedi llunio gyrfa glasurol drawiadol ac wedi mentro i dir cerddorol newydd, yn fwyaf nodedig trwy ei chydweithrediadau rhyngwladol gwobrwyedig.

Mae Finch a Ní Bhriain yn creu deialog gerddorol swynol lle mae elfennau traddodiadol a chyfoes yn dod at ei gilydd mewn dathliad syfrdanol o gydweithrediad cerddorol, gan dywys gwrandawyr ar daith hudolus ar adenydd y gwenyn ar draws Môr Iwerddon, wedi’i hysbrydoli gan ddiwylliannau eu dwy wlad enedigol.

Mae eu halbwm debutDouble Youwedi cyrraedd #1 yn Siartiau Clasurol iTunes a Siartiau Cerddoriaeth y Byd Ewrop, #2 yn Siartiau Cerddoriaeth Byd Transglobal, a derbyniodd enwebiadau ar gyfer yr ‘Albwm Gorau’ yn 6ed Gwobrau Gwerin Radio 1 RTÉ, ac ‘Albwm Gorau Ewrop’ yng Ngwobrau Cerddoriaeth Songlines 2024.

 

£22

Browse more shows tagged with:

Top