Cynaladwyedd
Rydym wedi ymrwymo i greu dyfodol gwell i bawb drwy leihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Rydym yn hyrwyddo ailgylchu ymhlith artistiaid, cwsmeriaid a chyflenwyr, ac mae ystyried pryderon amgylcheddol yn effeithio ar ein holl benderfyniadau a gweithgareddau.
Sgroliwch i lawr am fwy o wybodaeth

Rydyn ni'n gwneud ein rhan
Diolch i fenter cyllid cyfalaf diweddar gan Gyngor Celfyddydau Cymru / Llywodraeth Cymru, mae ein goleuadau yn Mwldan 2 wedi'u newid yn llwyddiannus i oleuadau LED ynni-effeithlon, sydd bellach wedi'u gosod ac yn weithredol.
Ar hyn o bryd rydym yn y broses o newid ein holl oleuadau yn yr adeilad i oleuadau LED gynaliadwy, gan arbed costau a lleihau ein heffaith amgylcheddol, ac rydym yn parhau i edrych ar ddefnyddio ynni adnewyddadwy lle bynnag y bo modd.
Defnyddiwn Natural UK ar gyfer ein Gwastraff Cewynnau a Gwastraff Benywaidd, felly nid yw’r gwastraff hwn yn mynd i safleoedd tirlenwi - mae popeth yn cael ei ferwi a'i droi’n Fyrddau Inswleiddio neu yn Becynnau ar gyfer Gollyngiadau Diwydiannol!
Rydym wedi gosod tapiau arbed dŵr yn ein toiledau merched a dynion.
Gosodir system ‘Cisternmister’ yn nhroethfeydd y dynion (byddant ond yn fflysio pan fydd y synwyryddion yn canfod symudiad).
Caiff ein systemau gwresogi ac awyru eu rheoli gan gyfrifiaduron er mwyn cyrraedd yr effeithlonrwydd ynni a rheolaeth cysur mwyafrifol.
Mae'r holl wastraff o'r biniau sbwriel a ddefnyddiwn yn fewnol yn cael ei ddidoli â llaw gan ein tîm gwasanaethau a'i ailgylchu lle bo modd (eitemau gwydr / papur / cardbord / plastig).
Mae ein hen fylbiau golau yn mynd at y ffatri ailgylchu leol yn ogystal ag unrhyw electroneg / peiriannau sydd wedi torri a phren sgrap sydd angen ei waredu.
Mae Mwldan yn orsaf ail-lenwi bwrpasol ac yn rhan o'r cynllun ‘Refill’ cenedlaethol. Croeso i’n cwsmeriaid ddod â’u poteli eu hunain i’w hail-lenwi. Gallwch ddarllen mwy am y cynllun hwn ar wefan Refill
Mae ein cwpanau coffi parod a gwellt papur yn 100% ailgylchadwy. Rydym hefyd yn cynnig gostyngiad o 20c ar ein diodydd poeth os byddwch yn dod â chwpan y gellir ei hailddefnyddio!
Mae'r gwydrau plastig amldro rydyn ni'n eu cynnig wedi'u gwneud o ddeunydd cadarn a all fynd trwy ein peiriant golchi llestri, mae hyn i atal ein gwastraff plastig untro.
Mae'r bocsys popcorn rydym yn eu defnyddio yn gardbord a chaiff ein holl wastraff cyffredinol ei ailgylchu lle bynnag y bo modd.
Rydym wedi cyflwyno cynllun ailgylchu llawn y tu allan i bob awditoriwm.
Rydym bellach yn cynnig y rhan fwyaf o'n diodydd wrth y bar mewn poteli gwydr, mae hyn er mwyn atal gwastraff plastig untro.
Rydym yn parhau i ddatblygu’r hyn rydym yn ei gynnig yn y bar ac yn cynnig cynnyrch lleol lle bo’n bosibl, mae hyn yn helpu i leihau milltiroedd bwyd ac yn cefnogi ein cyflenwyr lleol gwych.
Rydym yn defnyddio cynhyrchion glanhau ecogyfeillgar ar ein bar.
Rydym wedi ymuno ag Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru i gymryd rhan yn y Prosiect Lleihau a Lliniaru Ffosffad (PRaM), sydd â'r nod o wella ansawdd dŵr yr Afon Teifi. Fel rhan o’r prosiect hwn, rydym wedi gosod ‘plannwr dŵr glaw’ sy’n cymryd dŵr ffo o’r to o bibellau dŵr, yn hidlo trwy blannwr ac yn gollwng yn ôl i ddraen yr arllwysfa, gan arafu llif dŵr a gwella ansawdd dŵr.
Caiff ein llyfryn chwarterol ei bostio’n 'noeth', sy'n golygu bod eich cyfeiriad post yn cael ei argraffu yn uniongyrchol ar y llyfryn ei hun felly nid oes angen pecynnu ychwanegol.
Rydyn ni'n gwneud llawer o'n haddurniadau ein hunain ar gyfer digwyddiadau tymhorol, gan ailddefnyddio hen ddeunyddiau fel pamffledi a phosteri ffilm - efallai eich bod wedi gweld rhai o'n sêr Origami adeg y Nadolig!