Back

Y Goeden Bobl

Bwyty Dros Dro 

BWYDLEN

Cwrs Cyntaf 

Samosa Llysiau wedi ei ddadadeiladu gyda Siytni Planhigyn ŵy

Prif Gwrs 
Roulade cyw iâr gydag asbaragws, twmplenni reis a saws vindaloo

Prif Gwrs Llysieuol
Dal deilen cyrri a had mwstard gyda phwmpen cnau menyn a reis ghee

Pwdin 
Delice ffrwythau’r haf

 

Bydd ‘The People Tree’, profiad bwyty sy’n cael ei redeg gan Emma a Sana, yn cynnig bwydlenni gosod tri chwrs cyn sioeau byw dethol a digwyddiadau darlledu yn y misoedd nesaf.

Ffoniwch 07708 003014 i gadw eich bwrdd a rhoi eich dewisiadau bwydlen (cig, llysieuol), gallwch dalu ar y noson drwy Swyddfa Docynnau Theatr Mwldan. Pan fyddwch yn cadw'ch bwrdd, soniwch wrth y Goeden Bobl am unrhyw ofynion dietegol arbennig, a gwnânt eu gorau i addasu'r bwyd ar eich cyfer.

Mae’r fwydlen osod yn cynnig dewisiadau cwrs llysiau a chig (rhowch eich dewisiadau ar adeg cadw bwrdd). Rhowch wybod i’r Goeden Bobl pan fyddwch yn cadw bwrdd os oes gennych unrhyw ofynion dietegol, arbennig a byddant yn gwneud eu gorau i weddu ar eich cyfer.

Mae hon yn fwydlen tri chwrs am £23, neu £26 i gynnwys gwydraid o Brosecco.

 

Bydd ein bwydlen yn newid yn rheolaidd am fanylion ewch at www.mwldan.co.uk a Facebook a Thrydar y Mwldan.

 


Bar


Mae ein bar ar agor cyn digwyddiadau a dangosiadau byw, ac mae’n cynnig ystod o ddiodydd alcoholig, diodydd meddal a diodydd poeth (gallwn roi cwpanau plastig i chi fynd â’ch diod i mewn i’r sioe gyda chi) Cosy Teas, cwrw Mantle, hufen iâ Mary’s Farmhouse, yn ogystal â’r siocled, losin a phopgorn halen a melys.

 

 

Top
Y