Cardigan Theatre Panto: Jack & The Beanstalk
Mae’n amser cael ychydig o hwyl gyda Jack and the Beanstalk, panto diweddaraf Cardigan Theatre. Paratowch i chwerthin a gweiddi hwrê gyda’n harwr Jack ar ei siwrnai i achub ei fuwch fach werthfawr o grafangau’r Cawr a’i was ffyddlon Fleshcreep. Gyda help ei chwaer Jill, a’i gyfaill gorau Simple Simon, rhaid iddynt ddringo’r goeden ffa, twyllo’r cawr ac achub y fuwch i gyd cyn bod Dame Dolly’n dychwelyd o’i gwyliau. Mae’r fersiwn hwn o’r panto poblogaidd wedi ei fritho gan ganeuon pop ar hyd y degawdau, cyfleoedd di-ri i’r gynulleidfa gymryd rhan a slapstic doniol. Yn cynnwys talent leol o Aberteifi a’r ardal, mae Jack and the Beanstalk yn mynd i fod yn GAWR o bantomeim.
Hyrwyddir Gan Cardigan Theatre
£7