Back
Top
Frozen 2 (U)
Chris Buck | Jennifer Lee | USA | 2019 | 103’
Dyma i chi’r dilyniant hirddisgwyliedig i’r ffilm gerdd animeiddiedig eithriadol lwyddiannus. Mae'r cast gwreiddiol yn ailffurfio gydag Idina Menzel yn dychwelyd fel y dywysoges rewllyd Elsa, Kristen Bell fel ei chwaer Anna, Jonathan Groff fel Kristoff y dyn gwerthu rhew a Josh Gad fel Olaf. ‘Nid yw’r gorffennol fel yr ymddengys’ a rhaid i Elsa ymgyfarwyddo â’i grymoedd wrth baratoi ar gyfer her anhysbys.
£7.70 (£5.90)