Dangosiadau hygyrch
Beth yw’r rhain?
Mae Dangosiadau sy’n addas ar gyfer Awtistiaeth yn ddangosiadau sydd wedi eu haddasu’n gynnil i greu amgylchedd sy’n groesawgar i bobl sydd ag ystod o gyflyrau megis awtistiaeth, anableddau dysgu ac anrhefn wybyddol. Mae’r lefelau sain wedi eu lleihau ynddynt, y golau wedi ei adael arno ar lefel isel ac nid oes unrhyw hysbysluniau ar ddechrau’r ffilm. Gall mynychwyr ddod â bwyd a diod eu hun i’r sinema, gallant fod yn swnllyd ac eistedd ble bynnag sydd fwyaf cysurus iddynt. Ar gyfer y dangosiadau hyn ni allwch gadw seddau penodol a fe fydd ystafell dawel ar gael cyferbyn â’r awditoriwm os oes angen i unrhyw un ei defnyddio.
Dangosiad hamddenol nesaf -
KINGDOM OF THE PLANET OF THE APES (12A) Dydd Sul 19 Mai @ 1.15pm
IF (U) Dydd Sul 7 Gorffennaf @ 2.15pm
HAROLD & THE PURPLE CRAYON (PG tbc) Nos Sul 4 Awst @ 7.00pm
DDANGOSIADAU GYDAG ISDEITLAU
Beth yw’r rhain?
Mae dangosiadau gydag isdeitlau/capsiynau yn darparu trawsgrifiad o’r sain mewn ffilm, wedi ei arddangos ar hyd gwaelod y sgrin sinema. Ynghyd â deialog y ffilm, mae’r is-deitlau’n cynnwys sain nad yw’n ddeialog megis “(mae’n ochneidio)” neu “(drws yn gwichian)”.
Pwy all elwa o’r rhain?
Pobl sy’n Drwm eu Clyw
Ddangosiadau nesaf gydag isdeitlau yw:
Civil War (12A) Nos Fawrth 30 Ebrill @ 7.15pm
The Fall Guy (12A) Nos Fawrth 7 Mai @ 7.45pm
Challengers (15) Nos Fercher 8 Mai @ 7.00pm
Kingdom Of The Planet Of The Apes (12A) Nos Fawrth 21 Mai @ 7.30pm
IF (U) Nos Lun 27 Mai @ 7.45pm
The Garfield Movie (U) Nos Fercher 29 Mai @ 7.00pm
The Strangers: Chapter 1 (15) Nos Fercher 5 Mehefin @ 8.15pm
Abigail (18) Nos Sul 9 Mehefin @ 7.15pm
Furiosa: A Mad Max Saga (15 tbc) Nos Fawrth 11 Mehefin @ 7.30pm
Bad Boys: Ride Or Die (15 tbc) Nos Fawrth 18 Mehefin @ 7.30pm
Inside Out 2 (U tbc) Nos Fawrth 25 Mehefin @ 7.00pm
It Ends With Us (12A TBC) Nos Fawrth 2 Gorffennaf @ 7.00pm
Swede Caroline (15) Nos Iau 4 Gorffennaf @ 7.00pm
Kinds of Kindness (18 tbc) Nos Sul 7 Gorffennaf @ 7.00pm
The Bikeriders (15 tbc) Nos Fawrth 9 Gorffennaf @ 7.00pm
A Quiet Place: Day One (15 tbc) Nos Fawrth 16 Gorffennaf @ 7.30pm
Fly Me To The Moon (12A tbc) Nos Sul 21 Gorffennaf @ 7.30pm
Despicable Me 4 (U tbc) Nos Lun 22 Gorffennaf @ 6.45pm
Twisters (12A tbc) Nos Fercher 24 Gorffennaf @ 7.00pm
Deadpool & Wolverine (15 tbc) Nos Lun 5 Awst @ 8.15pm
Trap (15 tbc) Nos Fawrth 6 Awst @ 7.15pm
Harold & The Purple Crayon (PG tbc) Nos Fercher 7 Awst @ 7.00pm
Nodwch os gwelwch yn dda, nad oes isdeitlau ar gael ar bob ffilm, ond ble bynnag y mae’n bosibl rydym yn anelu at geisio dangos o leiaf un ffilm â chanddi isdeitlau o’r ffilmiau hynny sydd wedi eu hisdeitlo.
DANGOSIADAU SAIN DDISGRIFIO
(Ar hyn o bryd nid oes cyfleuster ar gyfer sain ddisgrifioym Mwldan 3)
Beth yw’r rhain?
Bydd dangosiadau sain ddisgrifio yn darparu sylwebaeth leisiol sydd wedi recordio o flaen llaw sy’n disgrifio nodweddion megis y cyffro, iaith gorfforol, mynegiadau a symudiadau yn ystod y ffilm. Mae’r sylwebaeth yn ffitio o fewn y seibiau tawel yn y ffilm, fel nad yw’n torri ar draws y deialog. Mae’n drac sain ar wahân caiff ei ddarlledu trwy glustffonau diwifr, a dim ond y person sy’n eu gwisgo bydd yn ei glywed.
Siaradwch â’n Swyddfa Docynnau oes bydd angen clustffonau arnoch.
Am fwy o wybodaeth am hyn cyfeiriwch at: http://www.rnib.org.uk
Pwy all elwa o’r rhain?
Pobl â nam ar eu golwg. Mae Sain Atgyfnerthu ar gael ar ein holl ddangosiadau sinema a’n digwyddiadau darlledu byw.
Byddwch yn ymwybodol, nid yw ein gwasanaeth Sain Ddisgrifio ar gael ar hyn o bryd ym Mwldan 1. Rydym yn gweithio'n galed i ddatrys y mater hwn cyn gynted ag y gallwn.
Am fwy o wybodaeth cyfeiriwch at http://www.dimensions-uk.org/support-services/autism-care/autism-friendly-screenings/
DANGOSIADAU SAIN ATGYFNERTHU
(Ar hyn o bryd nid oes cyfleuster ar gyfer atgyfnerthu sain ym Mwldan 3)
Beth yw hwn?
Mae Sain Atgyfnerthu yn gyfleuster sy’n atgyfnerthu trac sain y dangosiadau sinema trwy glustffonau. Mae hyn yn gweithredu yn lle’ch cymorth clyw.
Mae Sain Atgyfnerthu ar gael ar bob un o’n dangosiadau sinema - gofynnwch i’n swyddfa docynnau am glustffonau os hoffech wneud defnydd o’r gwasanaeth hwn.
Pwy all elwa o’r rhain?
Pobl sy’n Drwm eu Clyw.