Back

THE QUIET GIRL (AN CAILÍN CIÚIN) (12A)

Colm Bairéad | Ireland | 2021 | 94’ 

Mae hon yn ddrama Wyddeleg gyfareddol a chain sydd wedi ennill gwobrau niferus, y ffi lm hir gyntaf gan y cyfarwyddwr Colm Bairéad. Y ferch dawel yw Cáit (yr hynod Catherine Clinch), un o dyrfa gynyddol o blant sy’n cael eu hesgeuluso ar dyddyn tlawd yng nghefn gwlad Iwerddon ar ddechrau’r 80au. Gyda’i mam yn disgwyl babi arall eto, a’i thad yn llechu’n sarrug yn y cefndir fel bygythiad distaw, mae Cáit yn cael ei hanfon i aros gyda pherthnasau pell. Ffi lm wirioneddol brydferth a thosturiol. 

£7.70 (£5.90)

Top