Back

No Bears (12A)

Jafar Panahi | Iran | 2022 | 107’

No Bears yw'r ffilm newydd ragorol gan y cyfarwyddwr dylanwadol o Iran, Jafar Panahi. Yn y ffilm, mae Panahi yn chwarae ei hun, gwneuthurwr ffilmiau sy'n ceisio cyfarwyddo cast a chriw yn Nhwrci, ond sy'n cael ei orfodi i aros mewn pentref yn Iran yn agos at y ffin. Wrth i'w actorion berfformio eu stori eu hunain am geisio dianc i Ewrop, mae Panahi yn wynebu amheuaeth a thraddodiadau lleol yn y pentref lle mae'n aros. Mae ffilm ddiweddaraf Panahi yn dyst i sut y gall celfyddyd a phrotest ddod o hyd i ysbrydoliaeth yn yr union gyfyngiadau y mae ef a lleisiau creadigol eraill yn eu hwynebu. Enillydd Gwobr Arbennig y Beirniaid yn Fenis a'r Wobr am Ddewrder Sinematig yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Chicago.

£7.70 (£5.90)

Browse more shows tagged with:

Top