Back

Joyland (15)

SAIM SADIQ | PAKISTAN | USA | 2022 | 127’

Yng nghanol dinas fetropolitan ond geidwadol Lahore mae'r teulu Rana yn byw, sy'n cynnwys hen batriarch, mab hynaf, gwraig feichiog, a'r mab ieuengaf Haider. Wrth i'r teulu aros am enedigaeth bachgen bach, mae Haider yn gweithio'n ddirgel fel dawnsiwr cefnogi mewn theatr erotig lle mae'n cael ei ddenu at y seren drawsryweddol, Biba. Yn araf ac eto’n sydyn, mae Haider a Biba’n ymgolli mewn rhamant gyfrinachol sy’n meddiannu ei gartref yn dawel bach, gan amlygu’r hollt rhwng chwant a moesoldeb ar gyfer y teulu cyfan.

£8.40 (£7.70, £5.90)

Browse more shows tagged with:

Top