Back

Gagarine (12A)

Fanny Liatard, Jérémy Trouilh | France | 2020 | 98’

MaeGagarine,sy’n ffantasi drefol hynod o ramantus, yn nodi ymddangosiad cyntaf cyfareddol y cyfarwyddwyr Fanny Liatard a Jérémy Trouilh. Mae stad o dai Gagarine ym Mharis a gafodd ei hadeiladu yn y 1960au a'i henwi ar ôl Yuri Gagarin y gofodwr Sofietaidd, wedi'i chlustnodi ar gyfer ei dymchwel. Mae Yuri (Alseni Bathily) yn grwt yn ei arddegau sy’n gwneud popeth y gall i gynnal a chadw'r adeilad. Gydag anogaeth ei gymydog Diana (Lyna Khoudri) mae'n defnyddio ei frwdfrydedd am deithio yn y gofod i gynllunio ffyrdd dyfeisgar o osgoi'r anochel a dianc rhag ei ofidion daearol. Dathliad gorfoleddus o gymuned, cariad ac anelu at y sêr.

£7.70 (£5.90)

** Archebu tocynnau o flaen llaw yn hanfodol. Archebu ar lein 24/7 mwldan.co.uk. Swyfddfa docynnau (ffÔn yn unig) Dydd Mawrth - Dydd Sul 2-4pm 01239 621 200**

Mae dangosiadau y Gymdeithas Ffilm am ddim i Aelodau y Gymdeithas Ffilm!

Bydd aelodau ac aelodau cysylltiol hefyd yn derbyn disgownt sylweddol oddi ar brisiau dangosiadau arferol (heb fod yn ddangosiadau CFfThM) yn y Mwldan. e-bostiwch tmfsfilms@gmail.com neu cliciwch yma i weld sut gallwch fwynhau mwy o ffilmiau am lai o arian. 

amgylchiadau presennol, ar hyn o bryd nid yw seddi ar gyfer dangosiadau sinema yn cael eu dyrannu wrth i chi archebu tocynnau. Bydd seddi’n cael eu dyrannu i chi gan aelod o staff ar ôl i chi gyrraedd y Mwldan.

Os oes gennych unrhyw geisiadau am seddi (e.e. cais o ran symudedd, neu gais i eistedd wrth ymyl person arall), rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r blwch sylwadau sydd i'w weld ar waelod adran 'Eich Manylion' yn y broses archebu tocynnau.

Top