Back

Enys Men (15)

Mark Jenkin | UK | 2022 | 91’

Wedi’i gosod ym 1973, mae Enys Men yn ffilm iasol Gernywaidd sy’n gwyro’r meddwl wrth iddi ddatblygu ar ynys anghyfannedd oddi ar arfordir Cernyw. Mae arsylwadau dyddiol gwirfoddolwr bywyd gwyllt ar flodyn prin yn troi i gyfeiriad tywyll y rhyfedd a’r metaffisegol, gan ei gorfodi hithau a’r gwylwyr i gwestiynu beth sy’n real a beth sy’n hunllef. A yw'r dirwedd yn fyw ond hefyd yn ymdeimladol? Saethwyd y ffilm gan Jenkin ar ffilm liw raenog 16mm, a gyda’i sain nodweddiadol sy’n cael ei chydamseru’n hwyrach, mae’r ffurf yn teimlo’n arloesol ac yn ddilys i’r cyfnod. Wedi’i ffilmio ar leoliad o amgylch mwyngloddiau tun segur West Penwith, mae hefyd yn deyrnged i lên gwerin cyfoethog a harddwch naturiol Cernyw.

Mae’r ail ffilm gan feddwl gweledigaethol y gwneuthurwr ffilmiau o Gernyw yn dilyn ymlaen o lwyddiant ysgubol Bait yn 2019 a grefftwyd â llaw ac a enillodd BAFTA. Cafodd Enys Men ei début byd-eang yn ystod Pythefnos y Cyfarwyddwr, Cannes 2022, a derbyniodd adolygiadau rhagorol.

 

£7.70 (£5.90)

Mae'r holl ffilmiau a restrir isod yn cynnwys Sain Ddisgrifio a Sain Atgyfnerthu

Browse more shows tagged with:

Top