Back

ALI & AVA (15)

 

Clio Barnard | UK | 2021 | 94’

Mae Ali ac Ava, y ddau ohonynt yn unig am wahanol resymau, yn cwrdd trwy’r hoffter y maen nhw’n ei rhannu am Sofia, plentyn tenantiaid Ali o Slofacia, sy’n cael ei dysgu gan Ava. Mae Ali yn cael cysur yng nghynhesrwydd a charedigrwydd Ava ac mae Ava yn gweld cymhlethdod a hiwmor Ali yn anorchfygol. Dros fis lleuadol, mae gwreichion yn hedfan ac mae cysylltiad dwfn yn dechrau tyfu. Fodd bynnag, mae etifeddiaeth perthynas Ava yn y gorffennol a helbul emosiynol Ali yn dilyn chwalfa ei briodas yn dechrau cysgodi eu hangerdd newydd.

 

£7.70 (£5.90)

** Archebu tocynnau o flaen llaw yn hanfodol. Archebu ar lein 24/7 mwldan.co.uk. Swyfddfa docynnau (ffôn yn unig) Dydd Mawrth - Dydd Sul 2-4pm 01239 621 200**

O dan yr amgylchiadau presennol, ar hyn o bryd nid yw seddi ar gyfer dangosiadau sinema yn cael eu dyrannu wrth i chi archebu tocynnau. Bydd seddi’n cael eu dyrannu i chi gan aelod o staff ar ôl i chi gyrraedd y Mwldan.

Os oes gennych unrhyw geisiadau am seddi (e.e. cais o ran symudedd, neu gais i eistedd wrth ymyl person arall), rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r blwch sylwadau sydd i'w weld ar waelod adran 'Eich Manylion' yn y broses archebu tocynnau.

Mae'r holl ffilmiau a restrir isod yn cynnwys Sain Ddisgrifio a Sain Atgyfnerthu

Top