Back

Zoe Lyons: Bald Ambition Tour (14+)

Mae Zoe Lyons wedi cadw ei hun yn brysur yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf trwy gael yr hyn y gellir ei ddisgrifio orau fel argyfwng canol oes o ddifrif. Fe wnaeth hyn gynnwys prynu car bach chwim, gwahanu wrth ei phriod am ychydig a rhedeg marathon eithafol 100k na ddaeth i ddiweddglo dedwydd mewn gwirionedd. Ar hyd y ffordd, penderfynodd ei gwallt mai'r peth gorau i'w wneud oedd diflannu. Nid yw'n hawdd bod yn fenyw ganol oed: rhowch gynnig arni gyda combover. Diolch byth, mae Zoe wedi llwyddo i weld ochr ddoniol yr holl droeon trwstan hyn. Mae'n amser gwerthu'r car gwirion a cheisio rhoi trefn ar ei bywyd eto.

Zoe yw cyflwynydd Lightning BBC2. Mae hi'n cael ei hadnabod fel un o sêr Live at the Apollo ac mae’n westai rheolaidd ar raglen Have I Got News for You (BBC1), QI (BBC2), a Mock the Week (BBC2). Mae hi hefyd wedi ymddangos yn Celebrity Antiques Road Trip (BBC2), Stand Up and Deliver (C4), House of Games (BBC2). Mae llais Zoe yn un y gellir ei adnabod ar unwaith ar Radio 4 fel gwestai rheolaidd ar The News Quiz, Just a Minute, The Unbelievable Truth a The Now Show, ac mae hefyd yn cyd-gyflwyno sioe Frank Skinner ar Absolute Radio.

£16

★★★★​
Lyons is on top of her game, in command of her material, her audience and her stage​
Chortle
★★★★​
An hour of intelligent observations and hilarious character comedy
Three Weeks​
★★★★★​
A masterclass of how to write, construct, and perform an Edinburgh show, or any show in fact
Funny Women
Addas ar gyfer pobl 14 oed a hyn.

Browse more shows tagged with:

Top