Back

YR UNIGOLYN MWYAF PWERUS AR Y DDAEAR? | THE MOST POWERFUL PERSON ON EARTH?

Sgwrs gan Russell Walker, gyda chaneuon. 

Yn ystod wythnos Diwrnod yr Arlywyddion, byddwn yn ystyried hanesion ynghylch Arlywyddiaeth America. Wrth i’r Unol Daleithiau wynebu etholiad arall eto, byddwn yn edrych ar gyn-arlywyddion, da a drwg. Er mai arlywydd America yn unig ydyw, mae‘r hyn y mae ef neu hi yn ei wneud yn effeithio ar y byd i gyd. 

Fel arfer gellir dod o hyd i Lou Weldon, cantores, actores a pherchennog oriel yn canu alawon swing gyda No Mean Biscuit. Fodd bynnag, ar20fed Chwefror bydd yn cyfnewid ei ffrogau 1950au am plaid a blues gwerin wrth iddi ymuno â Russell i archwilio hanesion arlywyddion America.

Cynhelir y sgwrs hon yn Saesneg.

Cynhelir y digwyddiad hwn yn ardal oriel y Mwldan. Ceir meinciau eistedd yn y gofod hwn, gyda rhai cadeiriau â chefnau.Nid ydym yn cadw seddau ar gyfer y digwyddiadau hyn, felly rydym yn eich cynghori i gyrraedd yn gynnar os oes angen sedd gyda chefnarnoch.

Os oes gennych unrhyw broblemau hygyrchedd, cysylltwch â'n swyddfa docynnau (01239 621 200 /boxoffice@mwldan.co.uk).

£5

Browse more shows tagged with:

Top