Back

WE ARE WHAT WE OVERCOME

Gan gyfuno cerddoriaeth wreiddiol fywiog gyda chomedi a straeon sy’n procio’r meddwl, mae We Are What We Overcome yn daith un dyn tuag at iechyd meddwl da, trwy gyfrwng syniad gwael iawn.

Nid oes y fath beth â llinell syth; o Lerpwl a thorso noeth Antony Gormley i sesiwn gynghori gyhoeddus iawn bob nos – taith nad yw’n cael ei hargymell gan y GIG fel y cyfryw! 2018: yn hytrach na gweld seiciatrydd, dewisodd Matt, cerddor, heb unrhyw brofiad theatrig, fynd ati i berfformio sioe heb ei hysgrifennu yn yr ŵyl gelfyddydol unigol fwyaf ar y blaned, yr Edinburgh Fringe. Nawr: gan blethu hanesion am sut y daeth yn agos i hunanladdiad a symud i ffwrdd o’r man hwnnw eto, dyma'r llwybr a gymerodd un dyn o waeledd meddyliol i siarad yn gyhoeddus.

Mae Matt yn cyflwyno straeon personol, anodd ac eclectig wedi'u cydblethu â chaneuon gwreiddiol a berfformir gan fand llawn. Does dim byd yn cael ei guddio, mae'n siarad yn uniongyrchol â'r gynulleidfa gan greu awyrgylch o ddidwylledd a dealltwriaeth. Wedi’i rhannu’n ddau hanner, mae’r sioe yn symud yn hwylus trwy gymysgedd o straeon twymgalon, hiwmor hunanddibrisiol a chaneuon gwreiddiol. Ac, mae ‘na wastad amser ar gyfer sgwrs ar ôl y sioe.

Mae'r band yn cynnwys Matt McGuinness, sy'n canu ac yn chwarae'r gitâr, Eileen Wright, y bu’n cydweithredu â Matt ers amser maith, yn chwarae sacsoffon a chwibanau, a Neil White ar y piano, gitâr ac yn canu. Yn ymuno â nhw ar gyfer y sioeau llawn mae Jo May yr offerynnwr taro gwych... Gyda'i gilydd nhw yw Matt McGuinness a'r MLC - yn cyflwyno cyfuniad o roc a rôl indi canu baledi, gydag awgrym o Motown. “Os ydych chi'n mynd i greu gofod lle rydych chi'n caniatáu i bobl siarad yn agored, byddwch yn barod am onestrwydd, poen, empathi ac emosiynau llethol.”

Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr a New Art Exchange. Rydym yn falch o weithio gyda'r Samariaid.

£15 (£14)

A man opening up about his mental health is to be commended, and Matt McGuinness does it with charm, humility and gentle wit
THE SCOTSMAN
Soulful, upbeat, optimistic
FRINGE REVIEW

Browse more shows tagged with:

Top