Back

Theatr Genedlaethol Cymru: Tylwyth (16+)

HYRWYDDIR GAN: Theatr Genedlaethol Cymru

Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman 

TYLWYTH

gan Daf James

Mae Aneurin wedi bod yn dianc rhag ei orffennol, ond – mewn tro annisgwyl, diolch i Grindr – mae e wedi syrthio mewn cariad. Pan mae Dan ac yntau’n penderfynu mabwysiadu, mae'r ddau ohonynt ar ben eu digon. Ond wrth addasu i fywyd fel tad, a throi cefn ar orffennol gwyllt, mae ofnau duaf Aneurin yn dychwelyd.

Ddeng mlynedd ers y ddrama glodwiw ac arloesolLlwyth, mae Aneurin, Rhys, Gareth a Dada yn ôl mewn drama newydd, dyner a direidus gan Daf James. Gan daflu golwg grafog ar gariad, teulu a chyfeillgarwch, maeTylwythyn cynnig sylwebaeth feiddgar a phryfoclyd ar y Gymru gyfoes.

Canllaw Oed: 16+

Yn cynnwys iaith gref, golygfeydd o natur rywiol a themau aeddfed.

£16 (£14) (£10 - ysgolion) 

Browse more shows tagged with:

Top