Back

The Teifi In Old Photographs: From Cenarth to the Sea

Glen Johnson sy’n cyflwyno detholiad o ffotograffau - llawer na welwyd erioed o‘r blaen yn gyhoeddus - yn dangos afon Teifi o Genarth i‘r môr. Mae‘r delweddau‘n dangos nid yn unig y ddyfrffordd ei hun, ond amrywiaeth eang o ddefnyddwyr yr afon, o gyryglwyr, pysgotwyr a physgotwyr rhwydi sân i longau hwylio, dynion bad achub a gwylwyr y glannau. Darganfyddwch hanes cudd yr afon a gweld y Teifi mewn golau newydd.

Cynhelir y sgwrs hon yn Saesneg.

*argymhellwn archebu lle ymlaen llaw oherwydd poblogrwydd y digwyddiadau hyn

Cynhelir y digwyddiad hwn yn ardal oriel y Mwldan.Ceir meinciau eistedd yn y gofod hwn, gyda rhai cadeiriau â chefnau.Nid ydym yn cadw seddau ar gyfer y digwyddiadau hyn, felly rydym yn eich cynghori i gyrraedd yn gynnar os oes angen sedd gyda chefnarnoch.

Os oes gennych unrhyw broblemau hygyrchedd, cysylltwch â'n swyddfa docynnau (01239 621 200 /boxoffice@mwldan.co.uk).

Browse more shows tagged with:

Top