Back

RANAGRI (2024)

Ranagri yw Jordan Murray, Eleanor Dunsdon, Eliza Marshall, Dónal Rogers ac maen nhw wedi creu sain newydd a chyfoes ar y sîn werin, gan swyno cynulleidfaoedd gartref ac yn rhyngwladol fel band egnïol y gwyliau cerdd, sydd yr un mor gartrefol gyda’u hysgrifennu mwy personol a geiriau sy’n procio’r meddwl. 

Maen nhw’r un mor hapus i wneud i chi ddawnsio ag y maen nhw i wneud i chi wenu neu ollwng deigryn, gan dreiddio'n frwd i bynciau cyfoes y byd, gan fentro i wleidyddiaeth, a chreu cerddoriaeth ddyrchafol i gyd-fynd â geiriau dwys. Eu halbwm diweddar – ‘Tradition II’ – yw’r dilyniant i’w halbwm clodwiw ‘Tradition’ – sy’n archwilio caneuon gwerin traddodiadol – yn eu datgymalu a’u hail-lunio – gan geisio canfod ystyr amgen tra’n ychwanegu’r blasau Ranagri unigryw; telyn, ffliwtiau, gitarau, dulcimer, offerynnau taro i gyd wedi'u plethu ynghyd â phrif leisiau a harmonïau. 

Mae perfformiadau mewn gwyliau yn cynnwys Caergrawnt, Towersey a Montelago, lleoliadau mor amrywiol â Birmingham Symphony Hall i Topic Folk Club, pob un ohonynt yr un mor annwyl iddynt. Ymhlith y prif slotiau diweddar mae Lyme Folk Weekend a Baafest a'r hydref hwn maen nhw’n teithio ledled yr Almaen, ac yna cydweithrediad newydd gyda'r arwr pop Tony Christie.

£16 (£15)

Echoes of Pentangle, Jethro Tull and new Celtic folk sounds cemented by strong contemporary songwriting
RTE
Voices and instruments combine to astound the listener with some of the most attention-grabbing music I’ve heard in a long time
FRUK 2022

Top