Back

Ralph McTell (2022)

Mae Ralph McTell ar daith gyda’i albwm ‘Hill of Beans’. Wedi’i gynhyrchu gan yr enwog Tony Visconti, dyma’r albwm cyntaf o ddeunydd gwreiddiol ers 10 mlynedd i Ralph. Bydd y perfformiad yn cynnwys digonedd o ganeuon o'i yrfa 50+ mlynedd yn ogystal ag arddangos ychydig o'i waith diweddaraf. Yn ganwr-gyfansoddwr o fri rhyngwladol sydd wedi chwarae ar draws y byd, mae McTell yn dod â’i gyfansoddi caneuon gwych yn fyw gyda phlycio gitâr bendigedig a straeon atgofus. Mae ei ganeuon cyfareddol a’i hanesion digrif yn tywys y gynulleidfa o’i ddyddiau fel cerddor pen ffordd ym Mharis, i neuaddau cyngerdd yn Awstralia ac America a thrwy Strydoedd Llundain.

£24 

Top