Back

Other Voices Cardigan / Lleisiau Eraill Aberteifi 2022

COFRESTRWCH AR GYFER EICH BAND ARDDWRN ISOD 

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym gyhoeddi bod Lleisiau Eraill, gŵyl gerdd eiconig Iwerddon yn dychwelyd i Aberteifi, Ceredigion yng Nghymru yr hydref hwn yn dilyn bwlch o dair blynedd.  

Ymunwch â ni yn Aberteifi ar y 3 ydd - 5 ed  o Dachwedd am benwythnos llawn hud, pan fydd Lleisiau Eraill yn teithio o Dingle ar arfordir gorllewin Iwerddon i Aberteifi ar arfordir gorllewin Cymru, am benwythnos rhyfeddol o gerddoriaeth sy'n dathlu'r cysylltiadau cerddorol a diwylliannol hirsefydlog rhwng yr ardaloedd Celtaidd hyn. 

Mae Lleisiau Eraill yn ddigwyddiad unigryw, y cyfeirir ato'n aml fel 'pererindod gerddorol', lle mae cynulleidfaoedd a pherfformwyr fel ei gilydd yn heidio i leoliadau ledled y byd, o Dingle, Derry, Belffast, Llundain, Austin, Berlin a nawr Aberteifi.  

Dros y digwyddiad tridiau, bydd Lleisiau Eraill Aberteifi yn cyflwyno casgliad syfrdanol o dros 80 o ddigwyddiadau cerddorol a diwylliannol mewn lleoliadau bychain, cartrefol a gofodau sy'n llawn naws o gwmpas Aberteifi, gyda Huw Stephens yn llywyddu, ac mewn partneriaeth â’r Mwldan a Triongl. 

Bydd y prif actau yn perfformio yn Eglwys y Santes Fair. Caiff yr holl berfformiadau hyn eu darlledu ar yr un pryd i sgrin y sinema yn y Mwldan a’u ffrydio’n fyw ar draws y byd ar y noson trwy YouTube a chyfryngau cymdeithasol Other Voices. 

Yn ogystal â’r sesiynau yn Eglwys y Santes Fair, byddwn yn dod â’r Llwybr Cerdd i nifer o leoliadau o gwmpas y dref.

Bydd sesiynau Clebran yn llawn sgwrsio cyfoethogol gyda meddylwyr blaenllaw ar draws meysydd y celfyddydau, gwleidyddiaeth, newyddiaduraeth ac academia hefyd yn cael eu cynnal dros y tridiau. 

Bydd bandiau arddwrn yn rhoi mynediad i chi i’r Llwybr Cerdd a’r sesiynau Clebran ac yn costio £25.

Mae gennym hefyd nifer o wobrau arbennig iawn gan fusnesau lleol i'w hennill. I gael rhagor o wybodaeth am Leisiau Eraill Aberteifi ewch i www.othervoices.ie 

Mae Cofrestru ar gyfer Band Arddwrn nawr ar agor trwy'r ddolen isod Cofrestrwch nawr ar gyfer dros 80 o berfformiadau ar hyd penwythnos yr ŵyl (nid yw hyn yn cynnwys perfformiadau yn Eglwys y Santes Fair). 

Trwy gofrestru ar gyfer eich band arddwrn yn Aberteifi, y gellir ei gasglu cyn y digwyddiad yng Nghanolfan Lleisiau Eraill yn y Mwldan ar gyfer Llwybr Cerdd Lleisiau Eraill:  

- Cewch eich cynnwys mewn raffl i ennill pâr o docynnau i Eglwys y Santes Fair  

- Cewch eich cynnwys mewn raffl i ennill gwobrau eraill gan gynhyrchwyr a busnesau lleol yn y cyfnod cyn yr ŵyl. 

Gellir cyfnewid tocynnau am fandiau arddwrn yng Nghanolfan Lleisiau Eraill Aberteifi yn y Mwldan o ddydd Iau 1 af Tachwedd. Anfonir mwy o wybodaeth am gyfnewid tocynnau a mynediad i ddigwyddiadau yn ystod yr wythnosau nesaf. 

Bydd prynu band arddwrn hefyd yn eich cynnwys yn awtomatig yn y raffl wythnosol i ennill tocynnau mynediad aur y mae galw mawr amdanynt (yn dechrau 23 Medi) i ennill pâr o docynnau i weld rhai o'r prif actau yn sesiynau’r Eglwys (ni ellir prynu tocynnau ar gyfer y sesiynau yn yr Eglwys, rhaid eu hennill). Gorau po gyntaf y prynwch fand arddwrn, y mwyaf o gystadlaethau ac felly y mwyaf o siawns o ennill. 

Mae cofrestru yn costio £20 yn unig (£25 o 13eg Hydref). Cofiwch – nid yw cofrestru yn sicrhau mynediad. Mae capasiti wedi’i gyfyngu ar draws yr holl leoliadau, felly bydd mynediad ar y noson ar sail y gyntaf i’r felin. 

Ni roddir ad-daliadau ar gyfer tocynnau.

Noder, nid yw eich band arddwrn yn sicrhau mynediad i ddigwyddiadau yn Eglwys y Santes Fair. 

DOLENNI DEFNYDDIOL:

GALWAD AGORED I ARTISTIAID (Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw 23ainMedi 2022)

YMUNWCH Â’R E-RHESTR I DDERBYN DIWEDDARIADAU AM LEISIAU ERAILL ABERTEIFI YN Y DYFODOL 

CYRAEDD YMA

Top