Back

A Mythical Musical Odyssey with CALAN

Gyda chefnogaeth gan The Marcellas.

Ymgollwch mewn byd hudolus wrth i'r pedwarawd cyfareddol CALAN ymddangos ar ein llwyfan gyda'u brand unigryw o werin-pŵer. Mae’r daith gerddorol hon yn cyfuno alawon a chaneuon gwreiddiol gydag alawon hynafol a ddaethpwyd o hyd iddynt yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ymunwch â ni am noson ryfeddol yn cynnwys traciau o’u halbwm y bu disgwyl mawr amdano, ‘Nefydd’. 

 O fri rhyngwladol, mae CALAN yn cyflwyno naratif newydd, cyfareddol; daw manylder chwedlau hynafol chwedloniaeth Cymru yn fyw, gan godi o dudalennau llên gwerin i atseinio trwy alawon hudolus y delyn, gitâr, ffidil, acordion, a chân. Mae ‘Nefydd’ yn adrodd straeon am dywysogion llofruddiol, lladron pen-ffordd ac adfywiad gorfoleddus craidd llên gwerin Cymru. 

Mae natur amryddawn CALAN yn chwedlonol ynddi'i hun. O gyngherddau cartrefol i’r Royal Albert Hall, mae Calan eu hunain wedi dod yn arwyr gwerin modern. Yn nodedig hefyd, cawsant eu cynnwys ar albwm diweddaraf y seren operatig Syr Bryn Terfel, gan nodi eu dychweliad gorfoleddus i flaen y gad y byd cerddorol.

Band electro acwstig tri aelod o Ferthyr Tudful yw'r Marcellas. Mae’r band yn cynnwys dwy chwaer Bethan a Delyth McLean, yn canu harmonïau gwaed ac yn chwarae cymysgedd o gitâr, bas ac offerynnau taro a’u hewythr Karl Pulman yn chwarae gitâr arweiniol a drymiau. Mae eu dylanwadau yn amrywio o little feat a led zeppelin i Florence and the machine a First Aid Kit. Cerddoriaeth wreiddiol yw eu set bresennol a ysgrifennwyd ganddyn nhw eu hunain gyda rhai fersiynau gwahanol ar ambell hoff gyfr.

£21.50

Browse more shows tagged with:

Top