Back

Martyn Joseph (2022)

Mae Martyn Joseph yn artist hollol unigryw a rhyfeddol. Cymerwch bopeth rydych chi'n meddwl eich bod chi'n ei wybod am gantorion-gyfansoddwyr caneuon ... a’i anwybyddu. O ystyried mai un dyn a’i gitâr yn unig ydyw, mae'n creu perfformiad gyda sain bellgyrhaeddol enfawr sy'n egnïol, yn gymhellol ac yn ddwys. Boed argyfer dau gant o bobl neu ugain mil, mae'n syfrdanu’r dorf noson ar ôl noson.

Ym mis Ebrill 2019 enillodd “Gwobr Werin Cymru” am “Here Come The Young”, trac teitl ei albwm 2018, y dywedodd cylchgrawn Uncut yn ei gylch “Nid yw erioed wedi swnio’n fwy grymus nag y mae yma”

Yn 2018 cafodd ei anrhydeddu gyda Gwobr “Spirit of Folk” gan Folk Alliance International yn Kansas UDA, ac yn ogystal derbyniodd “Gwobr Cyflawniad Oes” cylchgrawn Fatea yma yn y DU.

Mae ganddo’r gallu prin i siarad â'r enaid gyda'i eiriau mynegiadol ac ingol ac mae ganddo yrfa sy'n rhychwantu 30 mlynedd, 33 albwm, dros hanner miliwn o werthiannau record a miloedd o berfformiadau byw.

Yn hydref 2021 bydd yn rhyddhau albwm stiwdio newydd sbon o ddeunydd newydd, gyda chaneuon sy’n arsylwadau craff ar ein hoes, yn ogystal â myfyrdodau teimladwy a mwy personol.

Cymharwyd ef â Bruce Springsteen, John Mayer, Bruce Cockburn a Dave Matthews, ond mae wedi creu ei arddull a'i enw da ei hun fel perfformiwr byw cyfareddol. Mae'n sefyll yn gadarn ar yr enw da hwnnw a adeiladwyd am roi'r hyn y mae miloedd o bobl wedi'i ddisgrifio fel profiad cerddoriaeth fyw gorau eu bywydau.

Fe'i gelwir yn raconteur sy’n gwehyddu straeon ar faterion amserol, yn ogystal â straeon ar freuder cariad, gyda gallu hudolus i estyn allan at ei wrandawyr trwy ei frwdfrydedd a'i hiwmor. Mae adolygiadau syfrdanol yn ei amlygu fel perfformiwr unigol ni ddylech ei golli, y mae ei gerddoriaeth yn aros gyda chi ymhell ar ôl i'r sioe ddod i ben.

£18 (£17)

Stunning, heartfelt music
Bob Harris, BBC Radio 2
One of acoustic music’s most original voices, and most forward looking of his generation of singer/songwriters
Q Magazine

Mae dyddiadau'r digwyddiad hwn wedi symud oherwydd cyfyngiadau COVID (yn wreiddiol 27/01/22 bellach 10/11/22).

Top