Back

Martin Simpson 2024

Ac yntau’n un o berfformwyr gwerin mwyaf uchel ei barch Lloegr, sy’n cael ei gydnabod yn eang fel un o’r chwaraewyr gitâr acwstig a sleid gorau yn y byd, mae dehongliadau Martin o ganeuon traddodiadol yn gampweithiau storïa. Mae ei sioeau unigol hynod yn ddwys, yn eclectig, yn swynol ac yn deimladwy dros ben. Bob amser yn doreithiog, a byth yn un i orffwys yn hir heb gitâr yn ei ddwylo a chân yn ei ben, mae Martin Simpson yn parhau i deithio ar hyd a lled y DU a thu hwnt gan roi angerdd, tristwch, cariad, harddwch, trasiedi a mawredd i gynulleidfaoedd sy’n llwyr ymgolli yn ei berfformiadau unigol personol tu hwnt. Yn syfrdanol, mae Martin wedi’i enwebu 32 o weithiau yn ystod 18 mlynedd Gwobrau Gwerin BBC Radio 2 - yn fwy nag unrhyw berfformiwr arall - ac mae wedi ennill nifer o wobrau. Rhyddhawyd ei albwm unigol diweddaraf, Skydancers, ym mis Ebrill 2024 ar Topic Records.

Heb os nac oni bai mae’n chwaraewr penigamp, ond yn anad dim, mae Martin Simpson yn cyfleu ei drysorfa amrywiol o ddeunydd o’r galon, gan berfformio gyda chynildeb, dwyster a gonestrwydd prin. Gwir feistr ar ei grefft.

£20

One of the virtuoso instrumentalists of the English music scene... sounds better than ever
The Guardian
Sun-dappled and splendid
MOJO

Top