Back

MADDY PRIOR AND THE CARNIVAL BAND: CHAPEL & TAVERN TOUR

Ar ôl treulio’u gyrfa hir a nodedig o gydweithio yn archwilio cerddoriaeth y Nadolig a cherddoriaeth grefyddol fythol, mae taith newydd Maddy Prior & The Carnival Band, sef Chapel and Tavern, yn dathlu bywydau a diwylliant pobl gyffredin. Cynhelir hanner cyntaf y cyngerdd yn y capel, gyda cherddoriaeth egnïol a brwdfrydig bandiau galeri’r eglwys mewn cyfnod pan oedd emynwyr yn hapus i gymryd eu hysbrydoliaeth o gerddoriaeth y theatr a chaneuon poblogaidd. Ar ôl yr egwyl rydyn ni yn y dafarn ar gyfer perfformiadau cyffrous o donau crynion, baledi, caneuon theatr ac alawon dawns. Mae’r ddau yn tywys y gynulleidfa yn ôl i Lundain afreolus Gin Lane Hogarth a byd gwyllt Swift, Smollett a Thackeray, canu brwd y Methodistiaid cynnar a bandiau’r pentref y mae Thomas Hardy yn eu cofio’n annwyl. Gofalwch am eich enaid cyn i chi adael i'r hen Adda ac Efa fynd yn benrhydd...

£24.50

 

Browse more shows tagged with:

Top