Back

Lost Voice Guy: Cerebral LOL-sy (2022)

 

Yn dilyn llwyddiant ei daith hynod lwyddiannus o'r DU yn 2019, mae Lost Voice Guy yn mynd nôl ati i deithio er mwyn rhoi gwên ar wynebau pobl ledled y wlad unwaith eto. Bydd enillydd Britain’s Got Talent yn procio hwyl ar ei fywyd yn byw fel person anabl mewn byd ôl-apocalyptaidd, wrth iddo geisio ymdopi â’r enwogrwydd a’r ffortiwn ers ei fuddugoliaeth gofiadwy. O uchafbwyntiau cwrdd â 50% o’r Chuckle Brothers i’r isafbwyntiau o gael ei alw’n ‘him off The X Factor’, a phob dim rhwng y ddau. Efallai nad oes gan y digrifwr stand-yp acen Geordie eto, ac efallai ei fod yn dal i swnio fel fersiwn crand o Robocop, ond mae ei gomedi yn siŵr o'ch syfrdanu. Fel y gwelwyd ar America’s Got Talent: The Champions, The Royal Variety Performance, Live At The Apollo, The Last Leg, The One Show, a seren Ability ar Radio 4. 

£16 (£14)

Yn addas i oedran 14+

Browse more shows tagged with:

Top