Back

LOST IN MUSIC: One Night at The Disco (2022)

 

HYRWYDDIAD AR Y CYD GAN THEATR MWLDAN / CASTELL ABERTEIFI

Drysau 6.30.pm

 

Paratowch i ail-greu hud y 70au a gadewch i ni fynd â chi ar daith gerddorol yn syth i galon Disco... dewch i ail-fyw rhai o'r caneuon gorau erioed gan Artistiaid fel Donna Summer, Gloria Gaynor, Earth, Wind & Fire, Sister Sledge a Chic. Mae gan y sioe hon fand byw syfrdanol, cast talentog tu hwnt a lleisiau syfrdanol. Felly, gwisgwch eich dillad mwyaf ffynci wrth i ni ddathlu oes euraidd Disco! Gyda chaneuon fel Never Can Say Goodbye, On The Radio, Hot Stuff, Car Wash, Boogie Wonderland a llawer, llawer mwy- dyma sioe fwyaf calonogol y fl wyddyn. Ymgollwch yn y sbri a gadewch eich trafferthion gartref!

 

£25 (£18 o dan 18 oed)

 

Sioe deyrnged yw hon ac nid yw'n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag unrhyw artistiaid/ystadau/cwmnïau rheoli gwreiddiol na sioeau tebyg. Mae’r hyrwyddwr yn cadw'r hawl i newid y rhaglen.

Browse more shows tagged with:

Top