Back

The Irish House Party

O’r diwedd, sioe gerddoriaeth Wyddelig sydd wedi deillio o Iwerddon heb yr ystrydebau sydd gan amlaf yn dilyn! Does dim capiau fflat na gwisgoedd mursennaidd yma. Yn hytrach, cewch gerddorion a dawnswyr hynod dalentog sydd eisiau cyflwyno sain a hwyl a sbri Iwerddon i chi mewn lleoliad agos-atoch a chartrefol.

Mae'r gerddoriaeth fyw, y dawnsio Gwyddelig a'r tynnu coes yn heintus ac yn treiddio i'r ysbryd mewn eiliadau. Mae’r sioe ei hun yn cynnwys cerddorion a dawnswyr sy'n bencampwyr Iwerddon Gyfan wrth iddynt gyfuno asiad unigryw o ryngweithio â’r gynulleidfa gyda straeon hynod ddiddorol am y gerddoriaeth a’r offerynnau eu hunain.

Sefydlwyd y sioe wreiddiol yn Nulyn gan griw o gerddorion oedd eisiau i ymwelwyr â’r ddinas brofi sut beth yw parti tŷ Gwyddelig go iawn. Mae’r cyfan wedi’i gyflwyno mewn ffordd hwyliog a doniol gan arwain at brofiad gwych o fynychu theatr.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn The Irish House Party yn fuan!

£20

Top