Iphigenia yn Sblott (Sherman Theatre)
Gan Gary Owen
Addasiad Cymraeg gan Branwen Cennard
Cynhyrchiad newydd wedi’i gyfarwyddo gan Alice Eklund.
Gadewch i Effie eich tywys chi trwy strydoedd Caerdydd heddiw. Camwch i'w byd. Cymerwch olwg ar sut rydyn ni’n byw, drwy ei llygaid hi.
Mae bron i ddegawd ers i Iphigenia in Splott, drama ddirdynnol Gary Owen, ryfeddu’r byd: gan swyno cynulleidfaoedd ac adolygwyr fel ei gilydd, ennill gwobrau a dod yn llwyddiant ysgubol yn rhyngwladol.
Yn fwy perthnasol nag erioed, mae un o ddramâu pwysicaf hanes theatr Cymru yn dychwelyd yn 2024, gyda chymaint i’w ddweud am fywyd yng Nghymru heddiw. Daw cynhyrchiad newydd pwerus Alice Eklund o addasiad Cymraeg Branwen Cennard â’r clasur tanbaid yn fyw unwaith eto. Yn llawn emosiwn amrwd, empathi, tosturi a chalon, mae Iphigenia yn Sblot yn ysgytwad. Dyma’r ddrama sydd ei hangen ar bob un ohonom ar hyn o bryd.
Perfformiad yn y Gymraeg. Bydd capsiynau Saesneg ar gael ym mhob perfformiad.
Ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Mae'r cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref, cyfeiriadau rhywiol, themâu sensitif a golygfeydd a allai beri gofid i rai aelodau o'r gynulleidfa.
Rhybudd manwl Mae'r cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref, cyfeiriadau rhywiol, themâu sensitif gan gynnwys galar a cholled newydd-anedig, yn ogystal â golygfeydd a allai beri gofid i rai aelodau o'r gynulleidfa.
Llun: Burning Red
£15 (£12)