Iolo Williams - A Career In Conservation

Saesneg fydd iaith y sioe hon

Mae Iolo Williams wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar ein sgriniau teledu ers bron i 20 mlynedd ond cyn hynny, treuliodd 15 mlynedd yn gweithio i’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yng Nghymru. Yn ‘Iolo Williams, a Career in Conservation’, bydd Iolo yn adrodd hanesion o’i blentyndod ac o’i yrfa waith hefyd.

O farcutiaid coch i gorilaod mynydd a bodaod tinwyn i eirth brith, mae Iolo wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gyda nhw i gyd yn ogystal â dod ar draws casglwyr wyau, bridwyr colomennod a'r SAS ar hyd y ffordd.

Ganed Iolo Williams yn Llanfair ym Muallt, a phan oedd yn 5 oed symudodd i bentref bychan Llanwddyn yng ngogledd Powys. O oedran cynnar iawn, bu’n crwydro’r rhosydd, y coedwigoedd a’r afonydd o amgylch ei gartref i chwilio am fywyd gwyllt, yn aml gyda Bitw, ci’r teulu.

Er efallai nad ef oedd disgybl gorau’r byd, fe lwyddodd i fynychu’r ysgol yn ddigon aml i grafu ei Safon Uwch mewn Bioleg a Ffrangeg cyn mynd ymlaen i astudio gradd mewn Ecoleg yng Ngholeg Polytechnig Gogledd Ddwyrain Llundain.

Ar ôl gadael y coleg, dychwelodd i ganolbarth Cymru, gan weithio ar fferm fynydd i ddechrau, yna yn y goedwigaeth, cyn dechrau gweithio i'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar ym 1985. Roedd ei rôl fel Swyddog Rhywogaethau Cymru yn golygu monitro adar prin fel barcutiaid, grugieir duon a brain coesgoch, cynghori tirfeddianwyr allweddol fel y Comisiwn Coedwigaeth a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac ymchwilio i droseddau yn erbyn adar gwyllt.

Daeth yr elfen ddiwethaf hon o’i swydd ag ef i sylw'r cyfryngau ac ym 1998, wedi'i fygwth gan swydd reoli a fyddai wedi’i gyfyngu at ddesg, fe adawodd y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar i weithio ym myd teledu a radio. Ers hynny, mae wedi cyflwyno rhaglenni bywyd gwyllt ac awyr agored yn Gymraeg a Saesneg ar BBC ac S4C.

£20 (£18)

Browse more shows tagged with: