Back

ILLYRIA: TWELFTH NIGHT

YM CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI

HYRWYDDIR AR Y CYD GAN Y MWLDAN A CASTELL ABERTEIFI

Mae Illyria yn ôl! Yr haf hwn, gadewch i'r cwmni gwobrwyedig eich tywys i ffwrdd.... 

TWELFTH NIGHT gan William Shakespeare. Byd dynion yw teyrnas arfordirol ddirgel Illyria – ond nid os oes gan Viola unrhyw beth i’w wneud â’r peth! Wedi'i llongddryllio a'i golchi i’r lan, rhaid iddi ddefnyddio’i meddwl chwim i oroesi. Gan wisgo fel dyn, mae'n dechrau gweithio i'r Dug Orsino. Mae Orsino, sydd wedi ymserchu â’r Foneddiges Olivia, yn anfon Viola ar ei ran i geisio ei chariad hi, ond mae'r guddwisg mor argyhoeddiadol nes bod Olivia yn syrthio mewn cariad â Viola yn hytrach nag Orsino. Gwyliwch wrth i stori am ramant, dial, a cham adnabod ddatblygu gyda chanlyniadau doniol tu hwnt. Gallai'r cyfan orffen mewn dagrau - hyd yn oed os mai dagrau chwerthin yw'r rhan fwyaf ohonynt! Dewch â phicnic a syrthiwch mewn cariad â thymor bythgofiadwy arall o theatr awyr agored. Gyda chanu, ymladd cleddyfau a ffolineb, ni allech ddymuno mwy na hynny. 

Hyd y perfformiad (tua): 2 awr 20 munud (gan gynnwys egwyl o 20 munud). 

Yn addas ar gyfer oedran 8+

£16 (£14 Concession | £10 Plant)

  • Ni roddir ad-daliadau ar docynnau ar gyfer digwyddiadau a hyrwyddir ar y cyd gan Gastell Aberteifi | Y Mwldan.
  • Y Mwldan yw'r unig werthwr tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
  • Mae'r amserau'n amodol ar hyn o bryd a byddant yn cael eu cadarnhau yn nes at yr amser.
  • Cewch fwy o wybodaeth hanfodol drwy e-bost cyn y digwyddiad.
  • Ni ddarperir unrhyw gadeiriau yn y digwyddiad hwn. Dewch â’ch seddau cefn isel eich hun neu rygiau.

  • Siaradwch â'n swyddfa docynnau os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd a gwnawn ein gorau i ddarparu ar gyfer hynny. 
  • Argymhellir archebu tocynnau ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi. Ni allwn sicrhau y bydd tocynnau ar gael wrth y drws.
  • Peidiwch â dod ag unrhyw alcohol neu wydr i’r safle.

Browse more shows tagged with:

Top