Back

The Greatest Magician

SIOE HUD SYFRDANOL newydd - a gyflwynir gan y consuriwr sydd fwyaf enwog am jamio switsfyrddau'r BBC, ar ôl iddo ragweld rhifau’r loteri yn gywir. Bydd y sioe hud syfrdanol, llawn ddirgel hon, sy’n derbyn gradd pum seren, yn gwneud i chi chwerthin yn iach a’ch pensyfrdanu’n llwyr. Wedi'i chyfarwyddo gan y diweddar Paul Daniels, daw'r sioe hud ddyrys i'r llwyfan am y tro cyntaf – cewch eich cludo i fyd difyr o ddoniolwch, rhyfeddod a dirgelwch.

Gan ganolbwyntio ar gampau rhithiol anhygoel, gan gynnwys gwneud i bobl anghofio eu henwau eu hunain a chludo iPhones o'r awditoriwm i mewn i flociau o iâ - mae'r sioe gyffrous hon yn siŵr o werthu pob tocyn ac mae’n dangos am gyfnod cyfyngedig yn unig.

Cyflwynir gan gyflwynydd Trickster: Live y BBC, ‘the most anticipated magician in a generation’ - James Phelan yw The Greatest Magician.

Sioe hud newydd ddisglair, a gyflwynir gan y consuriwr sydd mwyaf enwog am jamio switsfwrdd y BBC ar ôl iddo ragweld rhifau’r loteri yn gywir. Bydd y sioe llawn ddirgel hon, sy’n derbyn gradd 5 seren, yn sicr o’ch pensyfrdanu’n llwyr.James Phelan yw The Greatest Magician.

£15 (£13 Concession), £10 plentyn.

 

Profiad Tocyn ‘VIP’ ar gyfer The Greatest Magician (£30)

Gwahoddir deiliaid tocynnau ‘VIP’ i Sioe Hud 60 munud cyn y prif berfformiad, lle cewch weld gyfres o driciau yn digwydd yn syth o flaen ein llygaid. Bydd ‘VIPs’ hefyd yn derbyn bag nwyddau a phoster wedi'i lofnodi. 

★ ★ ★ ★ ★
The magic was great… there was the right level of pzaz. With huge laughs and stunning tricks
Voice Magazine
★ ★ ★ ★ ★
‘Will leave even the most seasoned magic goers flabbergasted’
Edinburgh Fringe Magazine
★ ★ ★ ★
He barely skips a beat… one to watch in the World of magic
The List
★ ★ ★ ★
James has stage presence by the bucket load
One4Review blog
You’re funny, you look good, all your tricks work, if you were anyone else I’d hate you
Paul Daniels

Archebu tocynnau o flaen llaw yn hanfodol.

Browse more shows tagged with:

Top