Back

Gŵyl Fawr Aberteifi 2023: Eisteddfod

YN CYMRYD LLE YN Y MWLDAN

Gyda’r Ŵyl ar ei newydd wedd eleni wedi pedair mlynedd o hoe mae’r drefn ychydig yn wahanol a bydd eleni yn gweld diwrnod llawn o gystadlu ar ddydd Sadwrn yr Ŵyl yn y Theatr. Bydd y diwrnod yn llawn dop o gystadlaethau offerynnol, canu a llefaru gyda Seremoni Cadeirio’r Bardd am 6yh cyn y prif gystadlaethau corawl. Ar ddiwedd y noson bydd y beirniaid yn dewis enillydd Côr yr Ŵyl o blith enillwyr y categoriau corawl. Yn unol a thraddodiad yr Ŵyl daw’r cystadlu i ben gyda chystadleuaeth Y Rhuban Glas i unawdwyr dros 25 oed.

£6 

HYWYRDDIR GAN / PROMOTED BY: Gŵyl Fawr Aberteifi 

Browse more shows tagged with:

Top