Back

An Evening and A Little Bit of a Morning With Mark Steel (14+)

Mae cymaint i weiddi amdano. I gychwyn, dyna i chi’r byd modern, lle rydych chi'n treulio cymaint o amser yn ceisio deall iTunes, mae hi'n haws ffurfio band a dysgu'r caneuon. Ond mae cymaint hefyd i wirioni ag ef. Fel y ffaith bod pawb yn Northampton yn gwybod am yr arwydd sy’n dweud ‘Family Planning Advice – Use Rear Entrance’. Ac yna mae’r stori wallgo’ am fy magwraeth i ar stryd dosbarth gweithiol yng Nghaint, ac yna darganfod bod fy nhad naturiol yn chwaraewr backgammon ac yn filiwnydd a oedd yn ffrindiau gorau gyda’r Arglwydd Lucan.

Dw i wedi dod i delerau â'r ffaith fy mod yn ddryswch o wrthddywediadau, yn ceisio aros yn ifanc tra'n methu mewngofnodi i unrhyw wefan. Dw i’n ceisio bod yn barchus a phrif ffrwd (yn y sioe hon bydd hyd yn oed piano a thipyn o ganu), hyd nes na alla i ymatal rhag cychwyn ar bregeth danllyd a fyddai'n arwain at gael fy nghloi i ffwrdd mewn rhywle diogel pe na bawn i ar lwyfan. A stand-yp yw hwn, felly bydd beth bynnag sydd wedi digwydd yn yr ystafell, yn y dref neu yn y byd y diwrnod hwnnw, bron yn sicr yn rhan o’r sioe. Felly, bydda i’n ceisio cadw hyd y sioe yn weddol, ond gallai para am noson gyfan a rhan o'r diwrnod wedyn yn rhwydd.

Pleidleisiwyd Mark Steel’s in Town, sydd wedi derbyn canmoliaeth y beirniaid, y 6ed comedi radio orau erioed, ac mae Mark yn ymddangos yn rheolaidd ar Have I Got News For You y BBC, QI a News Quiz BBCR4. Mae wedi cael ei enwi’n golofnydd papur newydd y flwyddyn ac mae’n awdur y llyfr sain gwobrwyedig Who Do I Think I Am.

£17

Browse more shows tagged with:

Top