Back

Dynamix Performing Arts School: Legally Blonde Jr The Musical

OMG you guys!!! Mae sioe gerdd Legally Blonde wedi cyrraedd!! Yn seiliedig ar ffilm fawr 2001 o’r un enw, mae gan y sioe gerdd wobrwyedig hon rywbeth at ddant

pawb! Mae Dynamix yn falch iawn o ddod â’r cynhyrchiad epig hwn yn fyw ym mis Mawrth ar lwyfan Theatr Mwldan.

Mae'r sioe hon yn llawn hwyl, yn befriog ac yn bennaf oll, yn binc ac mae’n dilyn hynt yr aelod chwaeroliaeth boblogaidd Elle Woods. Pan mae ei chariad yn ei gadael hi am ferch arall mwy synhwyrol, mae hi'n cefnu ar y cardiau credyd ac yn troi at y llyfrau. Gyda’i chi ffyddlon Bruiser wrth ei hochr, mae hi'n llwyddo i ennill lle yn yr Ysgol Gyfraith fawreddog Harvard er mwyn ceisio ei ennill yn ôl. Mae ei ffrindiau newydd yn ei helpu i ddysgu y gallwch chi fod yn glyfar ac yn ffasiynol hefyd. Bydd y sioe hon sy’n llawn cyffro di-stop, caneuon cofiadwy a dawnsio bywiog yn wledd llawn hwyl a fydd yn gwneud i chi symud eich traed wrth i’r cyfan ffrwydro’n binc!

I gael rhagor o wybodaeth am Dynamix a'u dosbarthiadau cysylltwch â Laura ar 07790 586064 neu e-bostiwch laura@dynamixperformingarts.co.uk

£11 (£8 Plant)

Browse more shows tagged with:

Top