Back

Dynamix Performing Arts School: High School Musical Jr.

‘Go Wildcats!!’ 

Mae’r ddrama Ysgol Uwchradd eitha’ wedi ein cyrraedd! Yn seiliedig ar ffilm boblogaidd 2006 o'r un enw, mae gan y sioe gerdd wobrwyedig hon rhywbeth i bawb! Mae Dynamix yn falch iawn o ddod â'r cynhyrchiad epig hwn yn fyw y mis Mawrth hwn yn Theatr Mwldan. 

Y diwrnod ar ôl gwyliau’r gaeaf, caiff hysbysiad am glyweliad ei arddangos ar gyfer sioe gerdd y gwanwyn East High, ac yn gyfrinachol mae Troy yr athletwr gwych a Gabriella sy’n rhagori yng ngwyddoniaeth eisiau rhoi cynnig arni. 

A fydd eu breuddwydion yn cael eu rhwystro wrth iddyn nhw lywio’r wahanol griwiau yn East High a chystadlu gyda’r sêr theatr cyfrwys Sharpay a Ryan. 

Gyda'i neges ysbrydoledig o gyfeillgarwch, hunan-ddarganfyddiad, a gwaith tîm, byddwch chi'n cydganu ac yn cefnogi’r holl fyfyrwyr wrth iddyn nhw ymdrechu i ddilyn eu breuddwydion! 

A hithau’n cynnwys llawer o ganeuon gwreiddiol y ffilm fel ‘Get your head in the game, ‘Stick to the Status Quo’ a ‘We’re all in this together’ mae’r sioe gydganu dwymgalon hon sy’n llawn rwtîns bachog a golygfeydd gafaelgar yn sicr o fod yn llwyddiant ysgubol.

£15 Pris llawn  (£8 o dan 15)

Am fwy o wybodaeth am Dynamix a'u dosbarthiadau cysylltwch â Laura ar 07790 586064 neu e-bostiwch laura@dynamixperformingarts.co.uk

Top